xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Isafbris am alcoholLL+C

1Isafbris am alcoholLL+C

(1)Mae’r isafbris cymwys am alcohol i gael ei gyfrifo, at ddibenion adran 2 o’r Ddeddf hon, drwy ddefnyddio’r fformiwla I × Cr × Cy, pan—

(a)I yw pa bris bynnag a bennir mewn rheoliadau fel yr isafbris uned at ddibenion y Ddeddf hon, a fynegir mewn punnoedd sterling,

(b)Cr yw cryfder canrannol yr alcohol, a fynegir fel rhif prifol,

(c)Cy yw cyfaint yr alcohol, a fynegir mewn litrau.

(2)Pan, oni bai am yr is-adran hon, na fyddai’r isafbris cymwys am alcohol yn rhif cyfan o geiniogau, mae i gael ei dalgrynnu i’r geiniog gyfan agosaf (gan gymryd bod hanner ceiniog yn nes at y geiniog gyfan nesaf i fyny).

(3)Er enghraifft—

(a)yn achos potel o win, Cr (cryfder canrannol y gwin) yw 12.5%, a Cy (cyfaint y gwin) yw 75 o gentilitrau;

(b)gan gymryd bod I (yr isafbris uned penodedig) yn £0.50, byddai’r isafbris cymwys am y gwin yn cael ei gyfrifo fel £0.50 × 12.5 × 0.75 = £4.69.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 28(2)

I2A. 1 mewn grym ar 14.10.2019 at ddibenion penodedig gan O.S. 2019/1336, ergl. 2

I3A. 1 mewn grym ar 2.3.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2020/175, rhl. 2(a)