xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cyffredinol

24Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraill

(1)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

(2)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).

(3)Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforaethol.

(4)Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (Criminal Justice Act 1925 (c. 86)) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (Magistrates’ Courts Act 1980 (c. 43)) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforaethol.

(5)Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth wrth ei heuogfarnu o drosedd o dan y Ddeddf hon i gael ei thalu o asedau’r bartneriaeth.

(6)Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth wrth ei heuogfarnu o drosedd o dan y Ddeddf hon i gael ei thalu o gronfeydd y gymdeithas.

25Atebolrwydd uwch-swyddogion etc.

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan⁠—

(a)corff corfforaethol;

(b)partneriaeth;

(c)cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.

(2)Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gan y canlynol, neu gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)uwch-swyddog i’r corff corfforaethol neu’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig, neu

(b)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn rhinwedd a grybwyllir ym mharagraff (a),

mae’r uwch-swyddog hwnnw neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforaethol, y bartneriaeth neu’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw—

(a)mewn perthynas â chorff corfforaethol, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforaethol;

(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;

(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, unrhyw swyddog i’r gymdeithas neu unrhyw aelod o’i chorff llywodraethu.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.

26Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(c)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol ac arbed.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y darpariaethau a ganlyn gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)adran 1;

(b)adran 22;

(c)paragraff 5(2) o Atodlen 1;

(d)paragraff 9 o Atodlen 1.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

27Dehongli

(1)Yn y Ddeddf hon, ystyr “alcohol” yw gwirodydd, gwin, cwrw, seidr neu unrhyw ddiod arall sydd wedi ei heplesu, ei distyllu neu sy’n wirodol, ond nid yw’n cynnwys unrhyw un o’r canlynol—

(a)alcohol sydd o gryfder nad yw’n uwch nag 1.2% pan y’i cyflenwir;

(b)persawr;

(c)rhinflasau a gydnabyddir gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi fel rhai nas bwriedir i’w hyfed fel diod alcoholaidd dolladwy neu gyda diod o’r fath;

(d)y rhinflas aromatig a elwir yn gyffredin yn chwerwon Angostura;

(e)alcohol sy’n gynnyrch meddyginiaethol neu’n gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol, neu sydd wedi ei gynnwys mewn cynnyrch o’r fath;

(f)alcohol sydd wedi ei annatureiddio;

(g)alcohol methyl;

(h)nafftha;

(i)alcohol sydd wedi ei gynnwys mewn melysion gwirod.

(2)At ddibenion is-adran (1)—

(3)At ddibenion y Ddeddf hon—

28Dod i rym

(1)Daw’r adrannau a ganlyn i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)adrannau 26 a 27;

(b)yr adran hon;

(c)adran 29;

(d)adran 30.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;

(b)gwneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed mewn cysylltiad â dod â darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.

29Hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r isafbris am alcohol

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r bwriad i gychwyn y gofynion o ran yr isafbris a gyflwynir gan y Ddeddf hon.

(2)Rhaid i’r camau a gymerir gynnwys camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r risg i iechyd yn sgil goryfed, ac o sut y bwriedir lleihau lefelau yfed yn sgil cyflwyno’r isafbris am alcohol.

30Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018.