xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad â swyddogion a rheolaeth landlord cymdeithasol cofrestredigLL+C

7Tendro neu drosglwyddo swyddogaethau rheoli landlord cymdeithasol cofrestredigLL+C

(1)Mae Atodlen 1 i Ddeddf 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 15B (tendro rheolaeth), yn is-baragraff (1), yn lle’r geiriau o “that” hyd ddiwedd yr is-baragraff rhodder “that a registered social landlord has failed to comply with a requirement imposed by or under an enactment.”

(3)Ym mharagraff 15B, yn is-baragraff (2), yn lle “where the misconduct or mismanagement” rhodder “if the failure”.

(4)Ym mharagraff 15D (trosglwyddo rheolaeth), yn is-baragraff (1), yn lle’r geiriau o “that” hyd ddiwedd yr is-baragraff rhodder “that a registered social landlord has failed to comply with a requirement imposed by or under an enactment.”

(5)Ym mharagraff 15D, yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2)But this paragraph does not apply if the failure relates only to the registered social landlord’s provision of housing in England.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 19(2)

I2A. 7 mewn grym ar 15.8.2018 gan O.S. 2018/777, ergl. 3(b)