xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cyffredinol

18Pŵer i wneud diwygiadau canlyniadol pellach etc.

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud y cyfryw ddarpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad y maent yn ystyried ei bod yn briodol o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon, neu oddi tani, neu at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Ddeddf hon, neu oddi tani.

(2)Yn yr adran hon, ystyr “deddfiad” yw darpariaeth a gynhwysir yn unrhyw un o’r canlynol, pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir—

(a)Deddf Seneddol;

(b)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)unrhyw offeryn a wneir o dan Ddeddf o fewn paragraff (a), neu Ddeddf neu Fesur o fewn paragraff (b).

(3)Mewn perthynas â rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)maent i’w gwneud drwy offeryn statudol;

(b)cânt gynnwys darpariaeth drosiannol neu ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddarpariaeth mewn Deddf Seneddol, neu Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

(5)Mae unrhyw offeryn arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i gael ei ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.