Nodiadau Esboniadol i Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 Nodiadau Esboniadol

Hysbysiadau Gorfodi a Chosbau

Adran 11 - Hysbysiadau gorfodi

66.Mae adran 11 yn diwygio adran 50C o Ddeddf Tai 1996 sy’n rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru roi hysbysiad gorfodi i landlord cymdeithasol cofrestredig.

67.Mae adran 11 yn diwygio Achos 2 (sef un o 9 achos, y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni eu bod wedi digwydd cyn rhoi hysbysiad gorfodi). Yr achos oedd y bu camymddwyn neu gamreoli o ran materion landlord cymdeithasol cofrestredig. O ganlyniad i’r diwygiad, yr achos yn awr yw pan fo’r landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad neu oddi tano.

68.O ganlyniad i’r diwygio, mae’r sefyllfa fel a ganlyn:

  • Gall Gweinidogion Cymru roi hysbysiad gorfodi i landlord cymdeithasol cofrestredig os ydynt wedi eu bodloni bod unrhyw un neu ragor o’r 9 achos a restrir yn gymwys.

  • Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano, a hefyd nad yw’r methiant yn dod o fewn unrhyw un neu ragor o’r 8 achos arall.

  • Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni hefyd fod rhoi hysbysiad gorfodi yn briodol (pa un a yw hynny’n debygol o fod yn ddigonol ynddo’i hun neu o ragflaenu camau pellach).

69.Ychwanegir is-adran (10) at adran 50C er mwyn sicrhau, pan fo achos arall yn gymwys, y dylid defnyddio’r seiliau a bennir yn yr achos hwnnw yn sail ar gyfer yr hysbysiad gorfodi. Er enghraifft, os cafodd safon a ddyroddwyd o dan adran 33A o Ddeddf 1996 ei thorri, Achos 1 fyddai’r sail briodol ar gyfer yr hysbysiad gorfodi. Ni fydd Achos 2 ond yn gymwys os nad yw unrhyw achos arall yn gymwys.

Back to top