Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Pwerau sy’n arferadwy mewn cysylltiad ag ymchwiliadau etc.

Adran 10 - Ymchwiliadau ac adroddiadau

56.Mae adran 10 yn diwygio paragraffau 20, 23, 24 a 27 o Atodlen 1.

Trosolwg

57.Mae paragraff 20 o Atodlen 1 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo ymchwiliad i faterion landlord cymdeithasol cofrestredig. Mae’r trothwy ar gyfer arfer y pŵer hwn wedi ei ddiwygio gan adran 10. Mae paragraff 22 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996 yn nodi y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol, at ddibenion ymchwiliad o’r fath, i gyfrifon a mantolen y landlord cymdeithasol cofrestredig o dan sylw, neu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill a bennir gan Weinidogion Cymru, gael eu harchwilio gan archwilydd cymwysedig a benodir gan Weinidogion Cymru. Mae paragraff 20(5) yn caniatáu i’r person neu’r personau sy’n cynnal yr ymchwiliad wneud un adroddiad interim neu ragor, yn ystod yr ymchwiliad, ar faterion y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol.

Paragraff 20 o Atodlen 1

58.Gwneir diwygiadau i’r trothwy lle y gall Gweinidogion Cymru gyfarwyddo ymchwiliad i faterion landlord cymdeithasol cofrestredig o dan baragraff 15H o Atodlen 1. Y trothwy oedd bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bu camymddwyn neu gamreoli o ran materion y landlord cymdeithasol cofrestredig, y trothwy yn awr yw bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano.

59.O ganlyniad, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo ymchwiliad os yw’n ymddangos iddynt y gallai’r landlord cymdeithasol cofrestredig fod wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano.

Paragraff 23 o Atodlen 1

60.Gwneir diwygiadau i un o’r trothwyon lle y gall Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion o dan baragraff 23 o Atodlen 1. Un o’r trothwyon oedd bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bu camymddwyn neu gamreoli o ran materion y landlord cymdeithasol cofrestredig a bod angen cymryd camau ar unwaith i warchod buddiannau tenantiaid y landlord cymdeithasol cofrestredig neu i warchod asedau’r landlord cymdeithasol cofrestredig. Y trothwy yn awr yw eu bod wedi eu bodloni bod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano, a bod angen cymryd camau o’r fath. Nid yw’r trothwy arall wedi newid.

61.O ganlyniad, mae’r sefyllfa fel a ganlyn:

Paragraff 24 o Atodlen 1

62.Gwneir diwygiadau i’r trothwy lle y gall Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion o dan baragraff 24 o Atodlen 1. Y trothwy oedd bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bu camymddwyn neu gamreoli o ran materion y landlord cymdeithasol cofrestredig, ond yn awr y trothwy yw eu bod wedi eu bodloni bod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano.

63.O ganlyniad, mae’r sefyllfa o dan baragraff 24 fel a ganlyn:

Paragraff 27 o Atodlen 1

64.Gwneir diwygiad i un o’r trothwyon lle y gall Gweinidogion Cymru gyfarwyddo landlord cymdeithasol cofrestredig i wneud trosglwyddiad tir o dan baragraff 27 o Atodlen 1. Un o’r trothwyon oedd bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bu camymddwyn neu gamreoli o ran materion y landlord cymdeithasol cofrestredig a bod angen cymryd camau ar unwaith i warchod buddiannau tenantiaid y landlord cymdeithasol cofrestredig neu asedau’r landlord cymdeithasol cofrestredig. Y trothwy yn awr yw eu bod wedi eu bodloni bod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano, a bod camau o’r fath yn ofynnol. Nid yw’r trothwy arall wedi newid.

65.O ganlyniad, y sefyllfa yw y caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo trosglwyddiad pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, o ganlyniad i ymchwiliad o dan baragraff 20 neu archwiliad o dan baragraff 22, fod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano. Gall Gweinidogion Cymru wneud hynny hefyd os ydynt wedi eu bodloni y byddai’r modd y rheolir ei dir yn gwella pe bai’r tir yn cael ei drosglwyddo.