54.Mae adran 9 yn diwygio un o’r trothwyon lle y gall Gweinidogion Cymru gyfuno landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n gymdeithasau cofrestredig o dan baragraff 15H o Atodlen 1. Mae’r paragraff hwn yn gymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n gymdeithasau cofrestredig. Un o’r trothwyon oedd bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bu camymddwyn neu gamreoli o ran materion y landlord cymdeithasol cofrestredig, a’r trothwy yn awr yw eu bod wedi eu bodloni bod y landlord cymdeithasol cofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano. Nid yw’r trothwy arall wedi newid.
55.O ganlyniad, mae’r sefyllfa fel a ganlyn:
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni, o ganlyniad i ymchwiliad neu archwiliad (o dan baragraff 20 neu 22 o Atodlen 1), bod landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gymdeithas gofrestredig wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfiad, neu oddi tano, caiff Gweinidogion Cymru wneud a gweithredu ar ran y gymdeithas, offeryn sy’n darparu ar gyfer ei chyfuno â chymdeithas gofrestredig arall.
Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r methiant yn ymwneud yn unig â’r landlord cymdeithasol cofrestredig yn darparu tai yn Lloegr.