Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

8Rheolau tystiolaeth etc.LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo’n angenrheidiol, at ddiben dehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE mewn achosion cyfreithiol, i benderfynu ar gwestiwn o ran—

(a)ystyr neu effaith unrhyw un o Gytuniadau’r UE neu unrhyw gytuniad arall sy’n ymwneud â’r UE yng nghyfraith yr UE, neu

(b)dilysrwydd, ystyr neu effaith unrhyw offeryn gan yr UE yng nghyfraith yr UE,

mae’r cwestiwn i’w drin at y diben hwnnw fel cwestiwn cyfreithiol.

(2)Yn yr adran hon—

  • mae “cytuniad” (“treaty”) yn cynnwys—

    (a)

    unrhyw gytundeb rhyngwladol, a

    (b)

    unrhyw brotocol neu atodiad i gytuniad neu gytundeb rhyngwladol;

  • ystyr “dehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE” (“interpreting EU derived Welsh law”) yw penderfynu ar unrhyw gwestiwn o ran dilysrwydd, ystyr neu effaith unrhyw ddarn o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth sy’n galluogi i sylw barnwrol gael ei gymryd o fater perthnasol neu sy’n gwneud hynny’n ofynnol, neu

(b)darparu ar gyfer derbynioldeb tystiolaeth benodedig o’r canlynol mewn unrhyw achosion cyfreithiol—

(i)mater perthnasol, neu

(ii)offerynnau neu ddogfennau a ddyroddir gan endid o’r UE neu sydd o dan gadwraeth endid o’r UE,

at ddiben dehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3)(b) ddarparu mai dim ond pan fo amodau penodedig wedi eu bodloni (er enghraifft, amodau o ran ardystio dogfennau) y mae tystiolaeth yn dderbyniol.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan ddeddfiad.

(6)At ddibenion yr adran hon, mae pob un o’r canlynol yn “mater perthnasol”—

(a)cyfraith yr UE,

(b)cytundeb yr AEE, ac

(c)unrhyw beth a bennir yn y rheoliadau ac sy’n ymwneud â mater a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21