7Dehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE LL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ddehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE.
(2)Mae unrhyw gwestiwn o ran dilysrwydd, ystyr neu effaith unrhyw ddarn o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE i’w benderfynu, i’r graddau nad yw’r gyfraith honno wedi ei haddasu ar neu ar ôl y diwrnod ymadael ac i’r graddau y maent yn berthnasol iddi—
(a)yn unol ag unrhyw gyfraith achosion a ddargedwir, unrhyw egwyddorion cyffredinol yr UE a ddargedwir a’r Siarter Hawliau Sylfaenol, a
(b)gan roi sylw (ymhlith pethau eraill) i derfynau cymwyseddau’r UE yn union cyn y diwrnod ymadael.
(3)Ond—
(a)nid yw Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yn rhwym wrth unrhyw ddarn o gyfraith achosion yr UE a ddargedwir,
(b)nid yw unrhyw lys neu dribiwnlys yn rhwym wrth unrhyw gyfraith achosion ddomestig a ddargedwir na fyddai fel arall yn rhwym wrthi, ac
(c)nid yw unrhyw un o egwyddorion cyffredinol yr UE i’w hystyried oni bai i Lys Ewrop ei chydnabod yn un o egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE mewn achos y penderfynwyd arno cyn y diwrnod ymadael (pa un ai fel rhan hanfodol o’r penderfyniad yn yr achos ai peidio).
(4)Wrth benderfynu pa un ai i wyro oddi wrth unrhyw ddarn o gyfraith achosion yr UE a ddargedwir, rhaid i’r Goruchaf Lys gymhwyso’r un prawf ag y byddai’n ei gymhwyso wrth benderfynu pa un ai i wyro oddi wrth ei gyfraith achosion ei hun.
(5)Nid yw is-adran (2) yn atal dilysrwydd, ystyr neu effaith unrhyw ddarn o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE sydd wedi ei addasu ar neu ar ôl y diwrnod ymadael rhag cael ei benderfynu fel y darperir ar ei gyfer yn yr is-adran honno os yw gwneud hynny yn gyson â bwriad yr addasiadau.
(6)Yn yr adran hon—
ystyr “cyfraith achosion a ddargedwir” (“retained case law”) yw—
(a)cyfraith achosion ddomestig a ddargedwir, a
(b)cyfraith achosion yr UE a ddargedwir;
ystyr “cyfraith achosion ddomestig a ddargedwir” (“retained domestic case law”) yw unrhyw egwyddorion a osodir gan lys neu dribiwnlys yng Nghymru a Lloegr neu Oruchaf Lys y Deyrnas Unedig, ac unrhyw benderfyniadau ganddo, fel y maent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael ac i’r graddau—
(a)y maent yn ymwneud ag unrhyw beth y caniateir i reoliadau gael eu gwneud mewn cysylltiad ag ef o dan adran 3, 4 neu 5, a
(b)nad ydynt wedi eu heithrio gan adran 6 neu unrhyw ddeddfiad arall mewn deddfwriaeth sylfaenol (ac eithrio deddfiad y mae is-adran (7) yn gymwys iddo),
(fel y mae’r egwyddorion a’r penderfyniadau hynny yn cael eu haddasu gan neu o dan y Ddeddf hon neu gan ddarn arall o gyfraith Cymru a Lloegr o bryd i’w gilydd);
ystyr “cyfraith achosion yr UE a ddargedwir” (“retained EU case law”) yw unrhyw egwyddorion a osodir gan Lys Ewrop, ac unrhyw benderfyniadau ganddo, fel y maent yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn y diwrnod ymadael ac i’r graddau—
(a)y maent yn ymwneud ag unrhyw beth y caniateir i reoliadau gael eu gwneud mewn cysylltiad ag ef o dan adran 3, 4 neu 5, a
(b)nad ydynt wedi eu heithrio gan adran 6 neu unrhyw ddeddfiad arall mewn deddfwriaeth sylfaenol (ac eithrio deddfiad y mae is-adran (7) yn gymwys iddo),
(fel y mae’r egwyddorion a’r penderfyniadau hynny yn cael eu haddasu gan neu o dan y Ddeddf hon neu gan ddarn arall o gyfraith Cymru a Lloegr o bryd i’w gilydd);
ystyr “egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE a ddargedwir” (“retained general principles of EU law”) yw egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE, fel y maent yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn y diwrnod ymadael ac i’r graddau—
(a)y maent yn ymwneud ag unrhyw beth y caniateir i reoliadau gael eu gwneud mewn cysylltiad ag ef o dan adran 3, 4 neu 5, a
(b)nad ydynt wedi eu heithrio gan adran 6 neu unrhyw ddeddfiad arall mewn deddfwriaeth sylfaenol (ac eithrio deddfiad y mae is-adran (7) yn gymwys iddo),
(fel y mae’r egwyddorion hynny yn cael eu haddasu gan neu o dan y Ddeddf hon neu gan ddarn arall o gyfraith Cymru a Lloegr o bryd i’w gilydd).
(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys i ddeddfiad (ac eithrio deddfiad a gynhwysir mewn Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru) a fyddai’n eithrio’r Siarter Hawliau Sylfaenol o’r gyfraith sy’n gymwys o ran Cymru (pa un a yw’r eithriad yn rhychwantu tiriogaethau eraill neu’n gymwys iddynt ai peidio) pe na bai am yr adran hon.
(8)Nid yw deddfiad y mae is-adran (7) yn gymwys iddo yn cael unrhyw effaith at ddibenion yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21