Cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE

6Heriau i gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE sy’n codi o annilysrwydd offerynnau gan yr UE

(1)

Nid oes unrhyw hawl yng nghyfraith Cymru a Lloegr ar neu ar ôl y diwrnod ymadael i herio unrhyw ddarn o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE ar y sail bod offeryn gan yr UE yn annilys yn union cyn y diwrnod ymadael.

(2)

Nid yw is-adran (1) yn gymwys i’r graddau—

(a)

y mae Llys Ewrop wedi penderfynu cyn y diwrnod ymadael fod yr offeryn yn annilys,

(b)

y mae’n ymwneud ag unrhyw ymddygiad a ddigwyddodd cyn y diwrnod ymadael sy’n arwain at unrhyw atebolrwydd troseddol, neu

(c)

y mae’r her o fath a ddisgrifir, neu y darperir ar ei gyfer, mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)(c) (ymhlith pethau eraill) ddarparu i her a fyddai wedi bod yn erbyn un o sefydliadau’r UE fel arall fod yn erbyn awdurdod cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau o fewn cymhwysedd datganoledig (ac eithrio un o Weinidogion y Goron).