5Darpariaeth a wneir o dan bwerau sy’n ymwneud â’r UE i barhau i gael effaithLL+C
(1)Mae darpariaeth a wneir mewn offeryn statudol a wneir o dan un neu ragor o’r pwerau sy’n ymwneud â’r UE a nodir yn is-adran (2) ac a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau yn cael effaith o dan yr adran hon yn hytrach nag o dan y pwerau hynny ac mae i’w thrin fel pe bai wedi ei gwneud o dan yr adran hon.
(2)Y pwerau sy’n ymwneud â’r UE yw—
(a)adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;
(b)paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;
(c)adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973 i’r graddau y gwnaed y ddarpariaeth mewn cysylltiad ag unrhyw rwymedigaeth gan yr UE.
(3)Caniateir i ddarpariaeth a wneir mewn offeryn statudol a wneir o dan ddeddfiad ac eithrio’r pwerau sy’n ymwneud â’r UE a nodir yn is-adran (2) gael eu pennu hefyd o dan is-adran (1)—
(a)os gwneir yr offeryn statudol o dan un neu ragor o’r pwerau sy’n ymwneud â’r UE hefyd, a
(b)os gwneir y ddarpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2)(a) neu (b) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 neu os yw’n ymwneud fel arall â’r UE neu’r AEE.
(4)Dim ond i’r graddau y byddai darpariaeth a bennir o dan is-adran (1) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan y Cynulliad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth na ellid ond ei gwneud gyda chydsyniad un o Weinidogion y Goron) y mae’r ddarpariaeth yn cael effaith o dan yr adran hon ac i’w thrin fel pe bai wedi ei gwneud o dan yr adran hon.
(5)Caiff rheoliadau addasu’r darpariaethau a bennir o dan is-adran (1) neu wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â hwy—
(a)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr addasu neu’r ddarpariaeth bellach yn angenrheidiol er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol darpariaethau a bennir o dan is-adran (1) ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a
(b)os yw’r addasu neu’r ddarpariaeth bellach o fewn cymhwysedd datganoledig.
(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (5)—
(a)cynnwys (ymhlith pethau eraill) y mathau o ddarpariaeth a grybwyllir yn is-adrannau (5) a (6) o adran 4;
(b)addasu deddfiad.
(7)Ond ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon—
(a)gosod na chynyddu trethiant;
(b)gwneud darpariaeth ôl-weithredol;
(c)creu trosedd berthnasol;
(d)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;
(e)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.
(8)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon—
(a)cael eu gwneud cyn y diwrnod ymadael, a
(b)peidio â dod i rym cyn y diwrnod ymadael.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 5 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21