Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

4Ailddatgan a pharhad deddfiadau sy'n deillio o'r UELL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae’r pŵer yn is-adran (2) yn gymwys i ddeddfiad—

(a)os cafodd ei basio neu ei wneud, neu os yw’n gweithredu, yn gyfan gwbl neu i ryw raddau at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2)(a) neu (b) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (pa un a yw wedi ei wneud o dan adran 2(2) o’r Ddeddf honno neu baragraff 1A o Atodlen 2 iddi ai peidio), neu

(b)os yw’n ymwneud fel arall â’r UE neu’r AEE at bob diben neu at rai dibenion.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diddymu neu ddirymu deddfiad sydd o fewn cymhwysedd datganoledig yn gyfan gwbl;

(b)datgymhwyso deddfiad sydd o fewn cymhwysedd datganoledig yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r graddau y mae o fewn cymhwysedd datganoledig;

(c)ailddatgan deddfiad a ddiddymir neu a ddirymir o dan baragraff (a) gyda neu heb addasiadau o fewn cymhwysedd datganoledig;

(d)ailddatgan deddfiad a ddatgymhwysir o dan baragraff (b), i’r graddau y mae wedi ei ddatgymhwyso, gyda neu heb addasiadau o fewn cymhwysedd datganoledig;

(e)gwneud darpariaeth bellach o fewn cymhwysedd datganoledig mewn cysylltiad ag ailddatgan deddfiad o dan baragraff (c) neu (d).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)darparu i ddarpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth a wneir o dan neu yn rhinwedd darpariaeth a ddiddymir neu a ddirymir drwy reoliadau o dan is-adran (2)(a) barhau mewn effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan neu yn rhinwedd darpariaeth mewn rheoliadau o dan is-adran (2)(c) (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth a wneir o dan neu yn rhinwedd swyddogaethau nad ydynt wedi eu hailddatgan yn y rheoliadau o dan is-adran (2)(c));

(b)darparu i ddarpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth a wneir o dan neu yn rhinwedd darpariaeth i’r graddau y mae wedi ei datgymhwyso drwy reoliadau o dan is-adran (2)(b) barhau mewn effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan neu yn rhinwedd darpariaeth mewn rheoliadau o dan is-adran (2)(d) (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth a wneir o dan neu yn rhinwedd swyddogaethau nad ydynt wedi eu hailddatgan yn y rheoliadau o dan is-adran (2)(d));

(c)addasu darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth sy’n parhau mewn effaith o dan yr is-adran hon a gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â’i heffaith barhaus, os yw’r addasiad neu’r ddarpariaeth bellach o fewn cymhwysedd datganoledig.

(4)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud addasiadau i ddeddfiad neu ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad â’i ailddatgan neu ei barhad mewn effaith oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr addasu neu’r ddarpariaeth bellach yn angenrheidiol er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y deddfiad ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth (ond nid ydynt yn gyfyngedig i ddarpariaeth)—

(a)sy’n dileu unrhyw beth nad oes ganddo unrhyw gymhwysiad ymarferol o ran Cymru neu unrhyw ran ohoni neu sydd fel arall yn ddiangen neu’n sylweddol ddiangen;

(b)sy’n dileu swyddogaethau endidau o’r UE, neu swyddogaethau mewn perthynas ag endidau o’r UE, nad oes ganddynt swyddogaethau yn y cyswllt hwnnw mwyach o dan gyfraith yr UE mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig neu unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig;

(c)sy’n dileu darpariaeth ar gyfer trefniadau cilyddol, neu mewn cysylltiad â threfniadau cilyddol, rhwng—

(i)y Deyrnas Unedig neu unrhyw ran ohoni neu awdurdod cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau o ran Cymru, a

(ii)yr UE, endid o’r UE, Aelod-wladwriaeth neu awdurdod cyhoeddus mewn Aelod-wladwriaeth,

nad ydynt yn bodoli mwyach neu nad ydynt yn briodol mwyach;

(d)sy’n dileu darpariaeth ar gyfer trefniadau eraill neu mewn cysylltiad â threfniadau eraill—

(i)sy’n ymwneud â’r UE, endid o’r UE, Aelod-wladwriaeth neu awdurdod cyhoeddus mewn Aelod-wladwriaeth, neu

(ii)sydd fel arall yn ddibynnol ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r UE,

ac nad ydynt yn bodoli mwyach neu nad ydynt yn briodol mwyach;

(e)sy’n dileu darpariaeth ar gyfer unrhyw drefniadau cilyddol neu unrhyw drefniadau eraill, neu mewn cysylltiad ag unrhyw drefniadau cilyddol neu unrhyw drefniadau eraill, nad ydynt yn dod o fewn paragraff (c) neu (d) ac nad ydynt yn bodoli mwyach, neu nad ydynt yn briodol mwyach, oherwydd i’r Deyrnas Unedig beidio â bod yn barti i unrhyw un neu ragor o Gytuniadau’r UE;

(f)sy’n rhoi swyddogaethau neu’n gosod cyfyngiadau—

(i)a oedd mewn cyfarwyddeb gan yr UE ac a oedd mewn grym yn union cyn y diwrnod ymadael (gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud deddfwriaeth drydyddol yr UE), a

(ii)y mae’n briodol eu dargadw;

(g)sy’n dileu cyfeiriadau at yr UE nad ydynt yn briodol mwyach.

(6)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill)—

(a)darparu i swyddogaethau endidau o’r UE neu awdurdodau cyhoeddus mewn Aelod-wladwriaethau (gan gynnwys gwneud offeryn o natur ddeddfwriaethol neu ddarparu cyllid)—

(i)fod yn arferadwy yn lle hynny gan awdurdod cyhoeddus (pa un a yw newydd ei sefydlu neu a yw wedi ei sefydlu at y diben ai peidio), neu

(ii)cael eu disodli, eu diddymu neu eu haddasu fel arall;

(b)darparu ar gyfer sefydlu awdurdodau cyhoeddus i gyflawni’r swyddogaethau y darperir ar eu cyfer gan reoliadau o dan yr adran hon.

(7)Ond ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)gosod na chynyddu trethiant;

(b)gwneud darpariaeth ôl-weithredol;

(c)creu trosedd berthnasol;

(d)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno, oni bai bod y rheoliadau yn ailddatgan y gyfraith;

(e)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.

(8)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon—

(a)cael eu gwneud cyn y diwrnod ymadael, a

(b)peidio â dod i rym cyn y diwrnod ymadael.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21