Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

16Dyletswydd i adrodd ar arfer swyddogaethau o dan adrannau 14(1) a 15(1)LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar arfer eu swyddogaeth cydsyniad o dan adran 14(1) neu 15(1) cyn diwedd cyfnod o 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir cydsyniad.

(2)Rhaid i adroddiad a lunnir o dan is-adran (1)—

(a)rhoi esboniad o’r is-ddeddfwriaeth sy’n cael ei gwneud, ei chymeradwyo neu ei chadarnhau;

(b)pennu’r person y mae’r swyddogaethau o wneud, cymeradwyo neu gadarnhau’r ddeddfwriaeth wedi eu rhoi iddo;

(c)pennu rhesymau Gweinidogion Cymru dros roi’r cydsyniad.

(3)At ddibenion is-adran (1), nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 16 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21