Cydsyniad Gweinidogion Cymru i is-ddeddfwriaeth sydd o fewn cwmpas cyfraith yr UE
15Cydsyniad Gweinidogion Cymru i gymeradwyo neu gadarnhau is-ddeddfwriaeth
(1)
Cyn cymeradwyo neu gadarnhau is-ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi, rhaid i un o Weinidogion y Goron, neu unrhyw berson arall (ac eithrio Gweinidogion Cymru) y mae’r swyddogaeth o gymeradwyo neu gadarnhau’r ddeddfwriaeth wedi ei rhoi iddo, gael cydsyniad Gweinidogion Cymru.
(2)
Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfwriaeth os yw—
(a)
amodau 1, 2 a 3 wedi eu bodloni, a
(b)
amod 4 neu 5 wedi ei fodloni.
(3)
Amod 1 yw bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys o ran Cymru (pa un a yw’r ddarpariaeth yn rhychwantu tiriogaethau eraill neu’n gymwys iddynt ai peidio) ac sydd o fewn cymhwysedd datganoledig.
(4)
Amod 2 yw bod y ddarpariaeth y cyfeirir ati yn amod 1 yn dod, neu y byddai wedi dod, o fewn cwmpas cyfraith yr UE fel y mae’n cael effaith ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym.
(5)
Amod 3 yw bod yr is-ddeddfwriaeth i’w gwneud gan berson ac eithrio Gweinidogion Cymru o dan swyddogaeth a arferir drwy offeryn statudol.
(6)
Amod 4 yw bod yr is-ddeddfwriaeth i’w chymeradwyo neu ei chadarnhau o dan swyddogaeth a roddir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddeddfir ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym.
(7)
Amod 5 yw—
(a)
bod yr is-ddeddfwriaeth i’w chymeradwyo neu ei chadarnhau o dan swyddogaeth a addesir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddeddfir ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym, a
(b)
bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys y math o ddarpariaeth y mae’r addasiad yn ei ganiatáu neu’n ei wneud yn ofynnol neu y mae’r addasiad yn gymwys iddo.
(8)
Addesir swyddogaeth at ddibenion is-adran (7) os, o ganlyniad i addasiad i ddeddfiad—
(a)
yw’r is-ddeddfwriaeth y mae’r swyddogaeth yn gymwys iddi yn gallu cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig na allai ei chynnwys yn flaenorol, neu
(b)
yw’r swyddogaeth yn gymwys i is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig nad oedd yn gymwys iddi yn flaenorol.
(9)
At ddibenion yr adran hon, mae swyddogaeth o gymeradwyo yn cynnwys swyddogaeth o roi cydsyniad.