Pwerau pellach Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ymadael â’r UE
12Adolygu’r pŵer yn adran 11(1) a machlud y pŵer
(1)
Ni chaniateir i reoliadau gael eu gwneud o dan adran 11(1) ar ôl diwedd cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ymadael.
(2)
Ond caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau estyn y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1).
(3)
O ran rheoliadau o dan is-adran (2)—
(a)
cânt estyn y cyfnod ar fwy nag un achlysur;
(b)
rhaid iddynt ddod i rym cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1) neu, os yw’r cyfnod wedi ei estyn drwy reoliadau blaenorol, cyn diwedd y cyfnod estynedig hwnnw;
(c)
ni chânt estyn y cyfnod ar unrhyw achlysur am fwy na 5 mlynedd.
(4)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar—
(a)
gweithrediad ac effaith y pŵer yn adran 11(1) a darpariaeth a wneir oddi tani, a
(b)
yr angen parhaus neu fel arall am y pŵer.
(5)
Wrth lunio adroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(6)
Nid oes angen i adroddiad ymdrin â chyfnod yr ymdriniwyd ag ef mewn adroddiad blaenorol.