xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig—
(a)sy’n cyfateb i ddarpariaeth mewn rheoliad gan yr UE neu benderfyniad gan yr UE,
(b)ar gyfer gorfodi darpariaeth a wneir o dan baragraff (a) neu er mwyn ei gwneud yn effeithiol fel arall, neu
(c)er mwyn gweithredu cyfarwyddeb gan yr UE o ran Cymru,
i’r graddau y mae’r rheoliad gan yr UE, y penderfyniad gan yr UE neu’r gyfarwyddeb gan yr UE yn cael effaith yng nghyfraith yr UE ar ôl y diwrnod ymadael.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu deddfiad.
(3)Wrth wneud darpariaeth o dan is-adran (1), mae gan Weinidogion Cymru y pwerau (ymhlith eraill) a grybwyllir yn adran 3(4); ac at y diben hwn, mae’r cyfeiriad at “cyfraith uniongyrchol yr UE” yn adran 3(4) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys darpariaeth mewn cyfarwyddeb gan yr UE.
(4)Ond ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon—
(a)gosod na chynyddu trethiant;
(b)gwneud darpariaeth ôl-weithredol;
(c)creu trosedd berthnasol.
(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(6)At ddiben yr adran hon, ystyr “Cytuniadau’r UE” yn y diffiniad o “cyfraith yr UE” a roddir gan adran 20(1) yw—
(a)Cytuniadau’r UE o fewn yr ystyr a roddir i “EU Treaties” gan adran 1(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) fel yr oedd y Ddeddf honno yn cael effaith yn union cyn ei diddymu gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, fel yr oedd yn union cyn y diwrnod ymadael;
(b)unrhyw gytuniad y mae’r Undeb Ewropeaidd yn ymrwymo iddo (ac eithrio i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin), gyda neu heb unrhyw un neu ragor o’r Aelod-wladwriaethau, ac a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ac
(c)unrhyw gytuniad y mae Aelod-wladwriaethau yn ymrwymo iddo sy’n ategol i gytuniad a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) ac a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 11 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21