xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Pwerau pellach Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ymadael â’r UELL+C

10Gweithredu’r cytundeb ymadaelLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig y maent yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion gweithredu’r cytundeb ymadael os ydynt yn ystyried y dylai darpariaeth o’r fath fod mewn grym ar neu cyn y diwrnod ymadael, yn ddarostyngedig i ddeddfu statud yn flaenorol gan Senedd y Deyrnas Unedig sy’n cymeradwyo telerau terfynol ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu deddfiad (gan gynnwys deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y Ddeddf hon).

(3)Ond ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)gosod na chynyddu trethiant;

(b)gwneud darpariaeth ôl-weithredol;

(c)creu trosedd berthnasol;

(d)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;

(e)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.

(4)Ni chaniateir i reoliadau gael eu gwneud o dan yr adran hon ar ôl y diwrnod ymadael.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21