Pwerau pellach Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ymadael â’r UE
10Gweithredu’r cytundeb ymadael
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig y maent yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion gweithredu’r cytundeb ymadael os ydynt yn ystyried y dylai darpariaeth o’r fath fod mewn grym ar neu cyn y diwrnod ymadael, yn ddarostyngedig i ddeddfu statud yn flaenorol gan Senedd y Deyrnas Unedig sy’n cymeradwyo telerau terfynol ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
(2)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu deddfiad (gan gynnwys deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y Ddeddf hon).
(3)
Ond ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon—
(a)
gosod na chynyddu trethiant;
(b)
gwneud darpariaeth ôl-weithredol;
(c)
creu trosedd berthnasol;
(d)
rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;
(e)
dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.
(4)
Ni chaniateir i reoliadau gael eu gwneud o dan yr adran hon ar ôl y diwrnod ymadael.