xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon sydd—
(a)yn sefydlu awdurdod cyhoeddus newydd;
(b)yn rhoi swyddogaethau i awdurdod cyhoeddus;
(c)yn gosod neu’n cynyddu ffi mewn cysylltiad â swyddogaeth sy’n arferadwy gan awdurdod cyhoeddus;
(d)yn creu trosedd neu’n ehangu cwmpas trosedd;
(e)yn creu neu’n diwygio pŵer i ddeddfu;
(f)yn addasu deddfwriaeth sylfaenol;
(g)wedi eu gwneud o dan adran 11, adran 12 neu adran 22;
ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw paragraff 4 yn gymwys.
(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol bwrw ymlaen i wneud y rheoliadau rhaid iddynt osod drafft o’r rheoliadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â datganiad sy’n nodi barn Gweinidogion Cymru o ran a ddylai’r weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) fod yn gymwys.
(3)Os yw’r rheoliadau drafft yn cynnwys darpariaeth sy’n addasu deddfwriaeth sylfaenol, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n esbonio pam bod angen y ddarpariaeth.
(4)Os, ar ôl i’r cyfnod o 40 o ddiwrnodau ddod i ben, yw’r rheoliadau drafft a osodwyd o dan is-baragraff (2) wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ar ffurf y rheoliadau drafft, oni bai bod y weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) yn gymwys.
(5)Mae’r weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) yn gymwys i’r rheoliadau drafft yn lle’r weithdrefn yn is-baragraff (4)—
(a)os yw’r rheoliadau drafft i’w gwneud o dan adran 12 neu adran 22,
(b)os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y dylai’r weithdrefn fod yn gymwys, neu
(c)os yw pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft yn argymell o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y dylai’r weithdrefn fod yn gymwys ac nad yw’r Cynulliad, drwy benderfyniad, yn gwrthod yr argymhelliad o fewn y cyfnod hwnnw.
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—
(a)unrhyw sylwadau,
(b)unrhyw benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac
(c)unrhyw argymhellion gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft,
a wneir yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau o ran y rheoliadau drafft.
(7)Os, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yw Gweinidogion Cymru yn dymuno gwneud rheoliadau ar ffurf y drafft, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad—
(a)sy’n datgan a gyflwynwyd unrhyw sylwadau, a
(b)sydd, os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.
(8)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl gosod y datganiad, wneud rheoliadau ar ffurf y drafft os y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(9)Ond caiff pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft, ar unrhyw adeg ar ôl i ddatganiad gael ei osod o dan is-baragraff (7) a chyn i’r rheoliadau drafft gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad o dan is-baragraff (8), argymell nad oes unrhyw drafodion pellach mewn perthynas â’r rheoliadau drafft.
(10)Pan fo argymhelliad wedi ei wneud gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-baragraff (9) mewn perthynas â rheoliadau drafft, ni chaniateir unrhyw drafodion mewn perthynas â’r drafft o dan is-baragraff (8) oni bai bod yr argymhelliad wedi ei wrthod drwy benderfyniad gan y Cynulliad.
(11)Os, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen i wneud y rheoliadau drafft ond gyda newidiadau sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru—
(a)y rheoliadau drafft diwygiedig,
(b)datganiad—
(i)sy’n rhoi crynodeb o’r newidiadau a gynigir,
(ii)sy’n datgan a gyflwynwyd unrhyw sylwadau, a
(iii)sydd, os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.
(12)Os yw’r rheoliadau drafft diwygiedig wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud y rheoliadau ar ffurf y rheoliadau drafft diwygiedig.
(13)Ond caiff pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft diwygiedig, ar unrhyw adeg ar ôl i ddatganiad gael ei osod o dan is-baragraff (11) a chyn i’r rheoliadau drafft gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad o dan is-baragraff (12), argymell nad oes unrhyw drafodion pellach mewn perthynas â’r rheoliadau drafft diwygiedig.
(14)Pan fo argymhelliad wedi ei wneud gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-baragraff (13) mewn perthynas â rheoliadau drafft diwygiedig, ni chaniateir unrhyw drafodion mewn perthynas â’r drafft diwygiedig o dan is-baragraff (12) oni bai bod yr argymhelliad wedi ei wrthod drwy benderfyniad gan y Cynulliad.
(15)At ddibenion y paragraff hwn mae rheoliadau wedi eu gwneud ar ffurf y rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig os nad ydynt yn cynnwys newidiadau sylweddol i’w darpariaethau.
(16)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at y cyfnodau “30 o ddiwrnodau”, “40 o ddiwrnodau” a “60 o ddiwrnodau” mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft yn gyfeiriadau at y cyfnodau o 30, 40 a 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y rheoliadau drafft eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(17)At ddibenion is-baragraff (16) nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21