ATODLEN 2Y WEITHDREFN AR GYFER GWNEUD RHEOLIADAU

(a gyflwynir gan adran 19(3))

Rheoliadau’r weithdrefn uwch

1

(1)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon sydd—

(a)

yn sefydlu awdurdod cyhoeddus newydd;

(b)

yn rhoi swyddogaethau i awdurdod cyhoeddus;

(c)

yn gosod neu’n cynyddu ffi mewn cysylltiad â swyddogaeth sy’n arferadwy gan awdurdod cyhoeddus;

(d)

yn creu trosedd neu’n ehangu cwmpas trosedd;

(e)

yn creu neu’n diwygio pŵer i ddeddfu;

(f)

yn addasu deddfwriaeth sylfaenol;

(g)

wedi eu gwneud o dan adran 11, adran 12 neu adran 22;

ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw paragraff 4 yn gymwys.

(2)

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol bwrw ymlaen i wneud y rheoliadau rhaid iddynt osod drafft o’r rheoliadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â datganiad sy’n nodi barn Gweinidogion Cymru o ran a ddylai’r weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) fod yn gymwys.

(3)

Os yw’r rheoliadau drafft yn cynnwys darpariaeth sy’n addasu deddfwriaeth sylfaenol, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n esbonio pam bod angen y ddarpariaeth.

(4)

Os, ar ôl i’r cyfnod o 40 o ddiwrnodau ddod i ben, yw’r rheoliadau drafft a osodwyd o dan is-baragraff (2) wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ar ffurf y rheoliadau drafft, oni bai bod y weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) yn gymwys.

(5)

Mae’r weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) yn gymwys i’r rheoliadau drafft yn lle’r weithdrefn yn is-baragraff (4)—

(a)

os yw’r rheoliadau drafft i’w gwneud o dan adran 12 neu adran 22,

(b)

os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y dylai’r weithdrefn fod yn gymwys, neu

(c)

os yw pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft yn argymell o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y dylai’r weithdrefn fod yn gymwys ac nad yw’r Cynulliad, drwy benderfyniad, yn gwrthod yr argymhelliad o fewn y cyfnod hwnnw.

(6)

Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)

unrhyw sylwadau,

(b)

unrhyw benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac

(c)

unrhyw argymhellion gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft,

a wneir yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau o ran y rheoliadau drafft.

(7)

Os, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yw Gweinidogion Cymru yn dymuno gwneud rheoliadau ar ffurf y drafft, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad—

(a)

sy’n datgan a gyflwynwyd unrhyw sylwadau, a

(b)

sydd, os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.

(8)

Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl gosod y datganiad, wneud rheoliadau ar ffurf y drafft os y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(9)

Ond caiff pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft, ar unrhyw adeg ar ôl i ddatganiad gael ei osod o dan is-baragraff (7) a chyn i’r rheoliadau drafft gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad o dan is-baragraff (8), argymell nad oes unrhyw drafodion pellach mewn perthynas â’r rheoliadau drafft.

(10)

Pan fo argymhelliad wedi ei wneud gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-baragraff (9) mewn perthynas â rheoliadau drafft, ni chaniateir unrhyw drafodion mewn perthynas â’r drafft o dan is-baragraff (8) oni bai bod yr argymhelliad wedi ei wrthod drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

(11)

Os, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen i wneud y rheoliadau drafft ond gyda newidiadau sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)

y rheoliadau drafft diwygiedig,

(b)

datganiad—

(i)

sy’n rhoi crynodeb o’r newidiadau a gynigir,

(ii)

sy’n datgan a gyflwynwyd unrhyw sylwadau, a

(iii)

sydd, os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.

(12)

Os yw’r rheoliadau drafft diwygiedig wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud y rheoliadau ar ffurf y rheoliadau drafft diwygiedig.

(13)

Ond caiff pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft diwygiedig, ar unrhyw adeg ar ôl i ddatganiad gael ei osod o dan is-baragraff (11) a chyn i’r rheoliadau drafft gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad o dan is-baragraff (12), argymell nad oes unrhyw drafodion pellach mewn perthynas â’r rheoliadau drafft diwygiedig.

(14)

Pan fo argymhelliad wedi ei wneud gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-baragraff (13) mewn perthynas â rheoliadau drafft diwygiedig, ni chaniateir unrhyw drafodion mewn perthynas â’r drafft diwygiedig o dan is-baragraff (12) oni bai bod yr argymhelliad wedi ei wrthod drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

(15)

At ddibenion y paragraff hwn mae rheoliadau wedi eu gwneud ar ffurf y rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig os nad ydynt yn cynnwys newidiadau sylweddol i’w darpariaethau.

(16)

Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at y cyfnodau “30 o ddiwrnodau”, “40 o ddiwrnodau” a “60 o ddiwrnodau” mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft yn gyfeiriadau at y cyfnodau o 30, 40 a 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y rheoliadau drafft eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(17)

At ddibenion is-baragraff (16) nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

Annotations:
Commencement Information

I1Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21

Datgelu sylwadau

2

(1)

Pan fo person sy’n cyflwyno sylwadau am reoliadau drafft neu reoliadau drafft diwygiedig o dan baragraff 1 wedi gofyn i Weinidogion Cymru beidio â’u datgelu, ni chaiff Gweinidogion Cymru eu datgelu o dan baragraff 1 os neu i’r graddau y byddai gwneud hynny (gan ddiystyru unrhyw gysylltiad â thrafodion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru) yn gyfystyr â thorri cyfrinachedd y gall unrhyw berson ddwyn achos yn ei gylch.

(2)

Os yw gwybodaeth sydd mewn sylwadau yn ymwneud â pherson arall, nid oes angen i Weinidogion Cymru ddatgelu’r wybodaeth o dan baragraff 1 os neu i’r graddau—

(a)

y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru y gallai datgelu’r wybodaeth honno effeithio’n andwyol ar fuddiannau’r person arall hwnnw; a

(b)

y mae Gweinidogion Cymru wedi methu â chael cydsyniad y person arall hwnnw i’r wybodaeth gael ei datgelu.

(3)

Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn effeithio ar unrhyw ddatgeliad y gofynnir amdano gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig, ac a wneir i’r pwyllgor.

Annotations:
Commencement Information

I2Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21

Rheoliadau’r weithdrefn safonol

3

(1)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon, oni bai bod paragraff 1 neu 4 yn gymwys.

(2)

Ni chaniateir i’r rheoliadau gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Annotations:
Commencement Information

I3Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21

Rheoliadau’r weithdrefn frys

4

(1)

Caniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio adran 11, adran 12 ac adran 22) gael ei wneud heb i ddrafft ohono gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad, os yw’n cynnwys datganiad bod Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y rheoliadau heb osod na chymeradwyo drafft.

(2)

Ar ôl i offeryn gael ei wneud yn unol ag is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â datganiad sy’n esbonio amgylchiadau’r brys a pham, ym marn Gweinidogion Cymru, yr oedd angen gwneud y rheoliadau heb osod na chymeradwyo drafft.

(3)

Mae rheoliadau sydd wedi eu cynnwys mewn offeryn a wneir yn unol ag is-baragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau, sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff yr offeryn ei wneud oni bai bod yr offeryn, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)

Wrth gyfrifo’r cyfnod o 30 o ddiwrnodau, nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(5)

Os yw rheoliadau yn peidio â chael effaith o ganlyniad i is-baragraff (3), nid yw hynny—

(a)

yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan y rheoliadau, neu

(b)

yn atal gwneud rheoliadau newydd.

Annotations:
Commencement Information

I4Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21

Y weithdrefn ar ailarfer pwerau penodol

5

Caiff offeryn, y mae paragraff 1, 3 neu 4 yn gymwys iddo, sy’n dirymu, yn diwygio neu’n ailddeddfu unrhyw offeryn o’r fath (er gwaethaf adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978) fod yn ddarostyngedig i weithdrefn wahanol o dan yr Atodlen hon i’r weithdrefn yr oedd yr offeryn a oedd yn cynnwys y rheoliadau gwreiddiol yn ddarostyngedig iddi.

Annotations:
Commencement Information

I5Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 7.6.2018, gweler a. 21

Cyfuniadau o offerynnau

6

(1)

Mae is-baragraff (2) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon sy’n ddarostyngedig i weithdrefn o dan baragraff 1, 3 neu 4.

(2)

Caiff yr offeryn statudol hefyd gynnwys rheoliadau o dan ddeddfiad arall a wneir drwy offeryn statudol sy’n ddarostyngedig i weithdrefn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n darparu ar gyfer diddymu’r offeryn ar ôl iddo gael ei wneud.

(3)

Pan fo rheoliadau wedi eu cynnwys fel y’i crybwyllir yn is-baragraff (2), y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn statudol yw’r weithdrefn a grybwyllir yn is-baragraff (1) ac nid y weithdrefn a grybwyllir yn is-baragraff (2).

(4)

Nid yw’r paragraff hwn yn atal cynnwys rheoliadau eraill mewn offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon.