xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018

2018 dccc 3

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer gweithredu o ran Cymru gyfraith sy’n deillio o’r Undeb Ewropeaidd sy’n ymwneud â phynciau sydd wedi eu datganoli i’r Cynulliad, mewn cysylltiad ag ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

[6 Mehefin 2018]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Cyflwyniad

1Trosolwg

Mae’r Ddeddf hon—

(a)yn darparu ar gyfer gwneud, ailddatgan a phennu cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig (adrannau 2 i 8);

(b)yn darparu pwerau eraill i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth mewn cysylltiad ag ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd (adrannau 9 i 13);

(c)yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi cydsyniad Gweinidogion Cymru i isddeddfwriaeth o fewn cwmpas cyfraith yr UE sydd wedi ei gwneud gan Weinidogion y Goron ac eraill o dan swyddogaethau newydd (adrannau 14 a 15).

Cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE

2Cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE

Yn y Ddeddf hon, ystyr “cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE” yw—

(a)y darpariaethau a wneir mewn rheoliadau o dan adran 3 (cyfraith uniongyrchol yr UE a ddargedwir),

(b)y darpariaethau a wneir mewn rheoliadau o dan adran 4 neu sy’n parhau mewn effaith o dan neu yn rhinwedd rheoliadau o dan yr adran honno (deddfiadau sy’n deillio o gyfraith yr UE),

(c)y darpariaethau a wneir mewn offerynnau statudol a bennir o dan adran 5 (darpariaeth a wneir o dan bwerau sy’n ymwneud â’r UE ac sy’n parhau mewn effaith o dan adran 5), i’r graddau y maent yn cael effaith o dan yr adran honno,

fel yr ychwanegir at y corff hwnnw o gyfraith neu fel y mae’n cael ei addasu fel arall gan neu o dan y Ddeddf hon neu gan ddeddfiadau eraill o bryd i’w gilydd.

3Pŵer i ddargadw cyfraith uniongyrchol yr UE

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig sy’n cyfateb i gyfraith uniongyrchol yr UE at ddiben parhau â’i gweithrediad, i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol, ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

(2)Wrth wneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru geisio parhau â’r hawliau, y pwerau, yr atebolrwyddau, y rhwymedigaethau, y cyfyngiadau, y rhwymedïau a’r gweithdrefnau a gydnabyddir ac sydd ar gael yng nghyfraith Cymru a Lloegr yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ar adeg gwneud y rheoliadau.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “cyfraith uniongyrchol yr UE” yw—

(a)darpariaeth yng Nghytuniadau’r UE sy’n cael effaith uniongyrchol yng nghyfraith Cymru a Lloegr yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 i’r graddau nad yw ei heffaith yn cael ei hatgynhyrchu mewn deddfiad sy’n gymwys o ran Cymru ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym (pa un a yw’r deddfiad yn rhychwantu tiriogaethau eraill neu’n gymwys iddynt ai peidio);

(b)darpariaeth mewn unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE neu ddarn o ddeddfwriaeth drydyddol yr UE i’r graddau nad yw ei heffaith yn cael ei hatgynhyrchu mewn deddfiad sy’n gymwys o ran Cymru ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym (pa un a yw’r deddfiad yn rhychwantu tiriogaethau eraill neu’n gymwys iddynt ai peidio);

(c)unrhyw Atodiad i gytundeb yr AEE, i’r graddau—

(i)y mae’n cyfeirio at unrhyw beth sy’n dod o fewn paragraff (b) neu’n cynnwys cyfaddasiadau o unrhyw beth o’r fath, a

(ii)nad yw ei effaith yn cael ei hatgynhyrchu mewn deddfiad sy’n gymwys o ran Cymru ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym (pa un a yw’r deddfiad yn rhychwantu tiriogaethau eraill neu’n gymwys iddynt ai peidio);

(d)Protocol 1 i gytundeb yr AEE (sy’n cynnwys cyfaddasiadau llorweddol sy’n gymwys mewn perthynas ag offerynnau gan yr UE y cyfeirir atynt yn yr Atodiadau i’r cytundeb hwnnw).

(4)Wrth wneud darpariaeth sy’n cyfateb i gyfraith uniongyrchol yr UE, mae gan Weinidogion Cymru y pŵer (ymhlith pethau eraill)—

(a)i beidio â chynnwys unrhyw beth yng nghyfraith uniongyrchol yr UE na fydd ganddo unrhyw gymhwysiad ymarferol o ran Cymru neu unrhyw ran o Gymru neu a fydd fel arall yn ddiangen neu’n sylweddol ddiangen;

(b)i beidio â chynnwys yng nghyfraith uniongyrchol yr UE swyddogaethau endidau o’r UE, neu swyddogaethau mewn perthynas ag endidau o’r UE, na fydd ganddynt swyddogaethau mwyach yn y cyswllt hwnnw o dan gyfraith yr UE mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig neu unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig;

(c)i beidio â chynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau cilyddol, neu mewn cysylltiad â threfniadau cilyddol, rhwng—

(i)y Deyrnas Unedig neu unrhyw ran ohoni neu awdurdod cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig, a

(ii)yr UE, endid o’r UE, Aelod-wladwriaeth neu awdurdod cyhoeddus mewn Aelod-wladwriaeth,

na fyddant yn bodoli mwyach neu na fyddant yn briodol mwyach;

(d)i beidio â chynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau eraill neu mewn cysylltiad â threfniadau eraill—

(i)sy’n ymwneud â’r UE, endid o’r UE, Aelod-wladwriaeth neu awdurdod cyhoeddus mewn Aelod-wladwriaeth, neu

(ii)sydd fel arall yn ddibynnol ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r UE,

ac na fyddant yn bodoli mwyach neu na fyddant yn briodol mwyach;

(e)i beidio â chynnwys darpariaeth ar gyfer unrhyw drefniadau cilyddol neu unrhyw drefniadau eraill, neu mewn cysylltiad ag unrhyw drefniadau cilyddol neu unrhyw drefniadau eraill, nad ydynt yn dod o fewn paragraff (c) neu (d) ac na fyddant yn bodoli mwyach, neu na fyddant yn briodol mwyach, oherwydd i’r Deyrnas Unedig beidio â bod yn barti i unrhyw un neu ragor o Gytuniadau’r UE;

(f)i ddileu cyfeiriadau at yr UE yng nghyfraith uniongyrchol yr UE na fyddant yn briodol mwyach;

(g)i ddarparu i swyddogaethau endidau o’r UE neu awdurdodau cyhoeddus mewn Aelod-wladwriaethau sydd yng nghyfraith uniongyrchol yr UE (gan gynnwys gwneud offeryn o natur ddeddfwriaethol neu ddarparu cyllid) fod—

(i)yn arferadwy gan awdurdod cyhoeddus (pa un a yw newydd ei sefydlu neu a yw wedi ei sefydlu at y diben ai peidio), neu

(ii)yn absennol neu’n wahanol mewn darpariaeth a wneir gan y rheoliadau;

(h)i ddarparu ar gyfer sefydlu awdurdodau cyhoeddus i gyflawni’r swyddogaethau y darperir ar eu cyfer gan reoliadau o dan yr adran hon;

(i)i addasu deddfiad.

(5)Ond ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)gosod na chynyddu trethiant;

(b)gwneud darpariaeth ôl-weithredol;

(c)creu trosedd berthnasol;

(d)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;

(e)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.

(6)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon—

(a)cael eu gwneud cyn y diwrnod ymadael, a

(b)peidio â dod i rym cyn y diwrnod ymadael.

4Ailddatgan a pharhad deddfiadau sy'n deillio o'r UE

(1)Mae’r pŵer yn is-adran (2) yn gymwys i ddeddfiad—

(a)os cafodd ei basio neu ei wneud, neu os yw’n gweithredu, yn gyfan gwbl neu i ryw raddau at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2)(a) neu (b) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (pa un a yw wedi ei wneud o dan adran 2(2) o’r Ddeddf honno neu baragraff 1A o Atodlen 2 iddi ai peidio), neu

(b)os yw’n ymwneud fel arall â’r UE neu’r AEE at bob diben neu at rai dibenion.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)diddymu neu ddirymu deddfiad sydd o fewn cymhwysedd datganoledig yn gyfan gwbl;

(b)datgymhwyso deddfiad sydd o fewn cymhwysedd datganoledig yn gyfan gwbl neu’n rhannol, i’r graddau y mae o fewn cymhwysedd datganoledig;

(c)ailddatgan deddfiad a ddiddymir neu a ddirymir o dan baragraff (a) gyda neu heb addasiadau o fewn cymhwysedd datganoledig;

(d)ailddatgan deddfiad a ddatgymhwysir o dan baragraff (b), i’r graddau y mae wedi ei ddatgymhwyso, gyda neu heb addasiadau o fewn cymhwysedd datganoledig;

(e)gwneud darpariaeth bellach o fewn cymhwysedd datganoledig mewn cysylltiad ag ailddatgan deddfiad o dan baragraff (c) neu (d).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)darparu i ddarpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth a wneir o dan neu yn rhinwedd darpariaeth a ddiddymir neu a ddirymir drwy reoliadau o dan is-adran (2)(a) barhau mewn effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan neu yn rhinwedd darpariaeth mewn rheoliadau o dan is-adran (2)(c) (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth a wneir o dan neu yn rhinwedd swyddogaethau nad ydynt wedi eu hailddatgan yn y rheoliadau o dan is-adran (2)(c));

(b)darparu i ddarpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth a wneir o dan neu yn rhinwedd darpariaeth i’r graddau y mae wedi ei datgymhwyso drwy reoliadau o dan is-adran (2)(b) barhau mewn effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan neu yn rhinwedd darpariaeth mewn rheoliadau o dan is-adran (2)(d) (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth a wneir o dan neu yn rhinwedd swyddogaethau nad ydynt wedi eu hailddatgan yn y rheoliadau o dan is-adran (2)(d));

(c)addasu darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth sy’n parhau mewn effaith o dan yr is-adran hon a gwneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â’i heffaith barhaus, os yw’r addasiad neu’r ddarpariaeth bellach o fewn cymhwysedd datganoledig.

(4)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon wneud addasiadau i ddeddfiad neu ddarpariaeth bellach mewn cysylltiad â’i ailddatgan neu ei barhad mewn effaith oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr addasu neu’r ddarpariaeth bellach yn angenrheidiol er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol y deddfiad ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth (ond nid ydynt yn gyfyngedig i ddarpariaeth)—

(a)sy’n dileu unrhyw beth nad oes ganddo unrhyw gymhwysiad ymarferol o ran Cymru neu unrhyw ran ohoni neu sydd fel arall yn ddiangen neu’n sylweddol ddiangen;

(b)sy’n dileu swyddogaethau endidau o’r UE, neu swyddogaethau mewn perthynas ag endidau o’r UE, nad oes ganddynt swyddogaethau yn y cyswllt hwnnw mwyach o dan gyfraith yr UE mewn perthynas â’r Deyrnas Unedig neu unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig;

(c)sy’n dileu darpariaeth ar gyfer trefniadau cilyddol, neu mewn cysylltiad â threfniadau cilyddol, rhwng—

(i)y Deyrnas Unedig neu unrhyw ran ohoni neu awdurdod cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau o ran Cymru, a

(ii)yr UE, endid o’r UE, Aelod-wladwriaeth neu awdurdod cyhoeddus mewn Aelod-wladwriaeth,

nad ydynt yn bodoli mwyach neu nad ydynt yn briodol mwyach;

(d)sy’n dileu darpariaeth ar gyfer trefniadau eraill neu mewn cysylltiad â threfniadau eraill—

(i)sy’n ymwneud â’r UE, endid o’r UE, Aelod-wladwriaeth neu awdurdod cyhoeddus mewn Aelod-wladwriaeth, neu

(ii)sydd fel arall yn ddibynnol ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r UE,

ac nad ydynt yn bodoli mwyach neu nad ydynt yn briodol mwyach;

(e)sy’n dileu darpariaeth ar gyfer unrhyw drefniadau cilyddol neu unrhyw drefniadau eraill, neu mewn cysylltiad ag unrhyw drefniadau cilyddol neu unrhyw drefniadau eraill, nad ydynt yn dod o fewn paragraff (c) neu (d) ac nad ydynt yn bodoli mwyach, neu nad ydynt yn briodol mwyach, oherwydd i’r Deyrnas Unedig beidio â bod yn barti i unrhyw un neu ragor o Gytuniadau’r UE;

(f)sy’n rhoi swyddogaethau neu’n gosod cyfyngiadau—

(i)a oedd mewn cyfarwyddeb gan yr UE ac a oedd mewn grym yn union cyn y diwrnod ymadael (gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud deddfwriaeth drydyddol yr UE), a

(ii)y mae’n briodol eu dargadw;

(g)sy’n dileu cyfeiriadau at yr UE nad ydynt yn briodol mwyach.

(6)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon (ymhlith pethau eraill)—

(a)darparu i swyddogaethau endidau o’r UE neu awdurdodau cyhoeddus mewn Aelod-wladwriaethau (gan gynnwys gwneud offeryn o natur ddeddfwriaethol neu ddarparu cyllid)—

(i)fod yn arferadwy yn lle hynny gan awdurdod cyhoeddus (pa un a yw newydd ei sefydlu neu a yw wedi ei sefydlu at y diben ai peidio), neu

(ii)cael eu disodli, eu diddymu neu eu haddasu fel arall;

(b)darparu ar gyfer sefydlu awdurdodau cyhoeddus i gyflawni’r swyddogaethau y darperir ar eu cyfer gan reoliadau o dan yr adran hon.

(7)Ond ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)gosod na chynyddu trethiant;

(b)gwneud darpariaeth ôl-weithredol;

(c)creu trosedd berthnasol;

(d)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno, oni bai bod y rheoliadau yn ailddatgan y gyfraith;

(e)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.

(8)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon—

(a)cael eu gwneud cyn y diwrnod ymadael, a

(b)peidio â dod i rym cyn y diwrnod ymadael.

5Darpariaeth a wneir o dan bwerau sy’n ymwneud â’r UE i barhau i gael effaith

(1)Mae darpariaeth a wneir mewn offeryn statudol a wneir o dan un neu ragor o’r pwerau sy’n ymwneud â’r UE a nodir yn is-adran (2) ac a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau yn cael effaith o dan yr adran hon yn hytrach nag o dan y pwerau hynny ac mae i’w thrin fel pe bai wedi ei gwneud o dan yr adran hon.

(2)Y pwerau sy’n ymwneud â’r UE yw—

(a)adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;

(b)paragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972;

(c)adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973 i’r graddau y gwnaed y ddarpariaeth mewn cysylltiad ag unrhyw rwymedigaeth gan yr UE.

(3)Caniateir i ddarpariaeth a wneir mewn offeryn statudol a wneir o dan ddeddfiad ac eithrio’r pwerau sy’n ymwneud â’r UE a nodir yn is-adran (2) gael eu pennu hefyd o dan is-adran (1)—

(a)os gwneir yr offeryn statudol o dan un neu ragor o’r pwerau sy’n ymwneud â’r UE hefyd, a

(b)os gwneir y ddarpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2)(a) neu (b) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 neu os yw’n ymwneud fel arall â’r UE neu’r AEE.

(4)Dim ond i’r graddau y byddai darpariaeth a bennir o dan is-adran (1) o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan y Cynulliad (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth na ellid ond ei gwneud gyda chydsyniad un o Weinidogion y Goron) y mae’r ddarpariaeth yn cael effaith o dan yr adran hon ac i’w thrin fel pe bai wedi ei gwneud o dan yr adran hon.

(5)Caiff rheoliadau addasu’r darpariaethau a bennir o dan is-adran (1) neu wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â hwy—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr addasu neu’r ddarpariaeth bellach yn angenrheidiol er mwyn sicrhau gweithrediad effeithiol darpariaethau a bennir o dan is-adran (1) ar ôl i’r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a

(b)os yw’r addasu neu’r ddarpariaeth bellach o fewn cymhwysedd datganoledig.

(6)Caiff rheoliadau o dan is-adran (5)—

(a)cynnwys (ymhlith pethau eraill) y mathau o ddarpariaeth a grybwyllir yn is-adrannau (5) a (6) o adran 4;

(b)addasu deddfiad.

(7)Ond ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)gosod na chynyddu trethiant;

(b)gwneud darpariaeth ôl-weithredol;

(c)creu trosedd berthnasol;

(d)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;

(e)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.

(8)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon—

(a)cael eu gwneud cyn y diwrnod ymadael, a

(b)peidio â dod i rym cyn y diwrnod ymadael.

6Heriau i gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE sy’n codi o annilysrwydd offerynnau gan yr UE

(1)Nid oes unrhyw hawl yng nghyfraith Cymru a Lloegr ar neu ar ôl y diwrnod ymadael i herio unrhyw ddarn o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE ar y sail bod offeryn gan yr UE yn annilys yn union cyn y diwrnod ymadael.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i’r graddau—

(a)y mae Llys Ewrop wedi penderfynu cyn y diwrnod ymadael fod yr offeryn yn annilys,

(b)y mae’n ymwneud ag unrhyw ymddygiad a ddigwyddodd cyn y diwrnod ymadael sy’n arwain at unrhyw atebolrwydd troseddol, neu

(c)y mae’r her o fath a ddisgrifir, neu y darperir ar ei gyfer, mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)(c) (ymhlith pethau eraill) ddarparu i her a fyddai wedi bod yn erbyn un o sefydliadau’r UE fel arall fod yn erbyn awdurdod cyhoeddus sy’n arfer swyddogaethau o fewn cymhwysedd datganoledig (ac eithrio un o Weinidogion y Goron).

7Dehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i ddehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE.

(2)Mae unrhyw gwestiwn o ran dilysrwydd, ystyr neu effaith unrhyw ddarn o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE i’w benderfynu, i’r graddau nad yw’r gyfraith honno wedi ei haddasu ar neu ar ôl y diwrnod ymadael ac i’r graddau y maent yn berthnasol iddi—

(a)yn unol ag unrhyw gyfraith achosion a ddargedwir, unrhyw egwyddorion cyffredinol yr UE a ddargedwir a’r Siarter Hawliau Sylfaenol, a

(b)gan roi sylw (ymhlith pethau eraill) i derfynau cymwyseddau’r UE yn union cyn y diwrnod ymadael.

(3)Ond—

(a)nid yw Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yn rhwym wrth unrhyw ddarn o gyfraith achosion yr UE a ddargedwir,

(b)nid yw unrhyw lys neu dribiwnlys yn rhwym wrth unrhyw gyfraith achosion ddomestig a ddargedwir na fyddai fel arall yn rhwym wrthi, ac

(c)nid yw unrhyw un o egwyddorion cyffredinol yr UE i’w hystyried oni bai i Lys Ewrop ei chydnabod yn un o egwyddorion cyffredinol cyfraith yr UE mewn achos y penderfynwyd arno cyn y diwrnod ymadael (pa un ai fel rhan hanfodol o’r penderfyniad yn yr achos ai peidio).

(4)Wrth benderfynu pa un ai i wyro oddi wrth unrhyw ddarn o gyfraith achosion yr UE a ddargedwir, rhaid i’r Goruchaf Lys gymhwyso’r un prawf ag y byddai’n ei gymhwyso wrth benderfynu pa un ai i wyro oddi wrth ei gyfraith achosion ei hun.

(5)Nid yw is-adran (2) yn atal dilysrwydd, ystyr neu effaith unrhyw ddarn o gyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE sydd wedi ei addasu ar neu ar ôl y diwrnod ymadael rhag cael ei benderfynu fel y darperir ar ei gyfer yn yr is-adran honno os yw gwneud hynny yn gyson â bwriad yr addasiadau.

(6)Yn yr adran hon—

(7)Mae’r is-adran hon yn gymwys i ddeddfiad (ac eithrio deddfiad a gynhwysir mewn Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru) a fyddai’n eithrio’r Siarter Hawliau Sylfaenol o’r gyfraith sy’n gymwys o ran Cymru (pa un a yw’r eithriad yn rhychwantu tiriogaethau eraill neu’n gymwys iddynt ai peidio) pe na bai am yr adran hon.

(8)Nid yw deddfiad y mae is-adran (7) yn gymwys iddo yn cael unrhyw effaith at ddibenion yr adran hon.

8Rheolau tystiolaeth etc.

(1)Pan fo’n angenrheidiol, at ddiben dehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE mewn achosion cyfreithiol, i benderfynu ar gwestiwn o ran—

(a)ystyr neu effaith unrhyw un o Gytuniadau’r UE neu unrhyw gytuniad arall sy’n ymwneud â’r UE yng nghyfraith yr UE, neu

(b)dilysrwydd, ystyr neu effaith unrhyw offeryn gan yr UE yng nghyfraith yr UE,

mae’r cwestiwn i’w drin at y diben hwnnw fel cwestiwn cyfreithiol.

(2)Yn yr adran hon—

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)gwneud darpariaeth sy’n galluogi i sylw barnwrol gael ei gymryd o fater perthnasol neu sy’n gwneud hynny’n ofynnol, neu

(b)darparu ar gyfer derbynioldeb tystiolaeth benodedig o’r canlynol mewn unrhyw achosion cyfreithiol—

(i)mater perthnasol, neu

(ii)offerynnau neu ddogfennau a ddyroddir gan endid o’r UE neu sydd o dan gadwraeth endid o’r UE,

at ddiben dehongli cyfraith Cymru sy’n deillio o’r UE.

(4)Caiff rheoliadau o dan is-adran (3)(b) ddarparu mai dim ond pan fo amodau penodedig wedi eu bodloni (er enghraifft, amodau o ran ardystio dogfennau) y mae tystiolaeth yn dderbyniol.

(5)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan ddeddfiad.

(6)At ddibenion yr adran hon, mae pob un o’r canlynol yn “mater perthnasol”—

(a)cyfraith yr UE,

(b)cytundeb yr AEE, ac

(c)unrhyw beth a bennir yn y rheoliadau ac sy’n ymwneud â mater a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

Pwerau pellach Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ymadael â’r UE

9Cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig y maent yn ystyried ei bod yn briodol er mwyn atal neu unioni unrhyw achos, sy’n codi o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r UE, o dorri rhwymedigaethau rhyngwladol y Deyrnas Unedig.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu deddfiad.

(3)Ond ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)gwneud darpariaeth ôl-weithredol;

(b)creu trosedd berthnasol;

(c)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;

(d)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi;

(e)cael eu gwneud i weithredu’r cytundeb ymadael o ran Cymru.

(4)Ni chaniateir i reoliadau gael eu gwneud o dan yr adran hon ar ôl diwedd y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ymadael.

10Gweithredu’r cytundeb ymadael

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig y maent yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion gweithredu’r cytundeb ymadael os ydynt yn ystyried y dylai darpariaeth o’r fath fod mewn grym ar neu cyn y diwrnod ymadael, yn ddarostyngedig i ddeddfu statud yn flaenorol gan Senedd y Deyrnas Unedig sy’n cymeradwyo telerau terfynol ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu deddfiad (gan gynnwys deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y Ddeddf hon).

(3)Ond ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)gosod na chynyddu trethiant;

(b)gwneud darpariaeth ôl-weithredol;

(c)creu trosedd berthnasol;

(d)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;

(e)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.

(4)Ni chaniateir i reoliadau gael eu gwneud o dan yr adran hon ar ôl y diwrnod ymadael.

11Pŵer i wneud darpariaeth sy’n cyfateb i gyfraith yr UE ar ôl y diwrnod ymadael

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig—

(a)sy’n cyfateb i ddarpariaeth mewn rheoliad gan yr UE neu benderfyniad gan yr UE,

(b)ar gyfer gorfodi darpariaeth a wneir o dan baragraff (a) neu er mwyn ei gwneud yn effeithiol fel arall, neu

(c)er mwyn gweithredu cyfarwyddeb gan yr UE o ran Cymru,

i’r graddau y mae’r rheoliad gan yr UE, y penderfyniad gan yr UE neu’r gyfarwyddeb gan yr UE yn cael effaith yng nghyfraith yr UE ar ôl y diwrnod ymadael.

(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon addasu deddfiad.

(3)Wrth wneud darpariaeth o dan is-adran (1), mae gan Weinidogion Cymru y pwerau (ymhlith eraill) a grybwyllir yn adran 3(4); ac at y diben hwn, mae’r cyfeiriad at “cyfraith uniongyrchol yr UE” yn adran 3(4) i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys darpariaeth mewn cyfarwyddeb gan yr UE.

(4)Ond ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)gosod na chynyddu trethiant;

(b)gwneud darpariaeth ôl-weithredol;

(c)creu trosedd berthnasol.

(5)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)At ddiben yr adran hon, ystyr “Cytuniadau’r UE” yn y diffiniad o “cyfraith yr UE” a roddir gan adran 20(1) yw—

(a)Cytuniadau’r UE o fewn yr ystyr a roddir i “EU Treaties” gan adran 1(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) fel yr oedd y Ddeddf honno yn cael effaith yn union cyn ei diddymu gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, fel yr oedd yn union cyn y diwrnod ymadael;

(b)unrhyw gytuniad y mae’r Undeb Ewropeaidd yn ymrwymo iddo (ac eithrio i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Polisi Tramor a Diogelwch Cyffredin), gyda neu heb unrhyw un neu ragor o’r Aelod-wladwriaethau, ac a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ac

(c)unrhyw gytuniad y mae Aelod-wladwriaethau yn ymrwymo iddo sy’n ategol i gytuniad a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b) ac a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

12Adolygu’r pŵer yn adran 11(1) a machlud y pŵer

(1)Ni chaniateir i reoliadau gael eu gwneud o dan adran 11(1) ar ôl diwedd cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ymadael.

(2)Ond caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau estyn y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1).

(3)O ran rheoliadau o dan is-adran (2)—

(a)cânt estyn y cyfnod ar fwy nag un achlysur;

(b)rhaid iddynt ddod i rym cyn diwedd y cyfnod a grybwyllir yn is-adran (1) neu, os yw’r cyfnod wedi ei estyn drwy reoliadau blaenorol, cyn diwedd y cyfnod estynedig hwnnw;

(c)ni chânt estyn y cyfnod ar unrhyw achlysur am fwy na 5 mlynedd.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar—

(a)gweithrediad ac effaith y pŵer yn adran 11(1) a darpariaeth a wneir oddi tani, a

(b)yr angen parhaus neu fel arall am y pŵer.

(5)Wrth lunio adroddiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(6)Nid oes angen i adroddiad ymdrin â chyfnod yr ymdriniwyd ag ef mewn adroddiad blaenorol.

13Ffioedd a thaliadau

Mae Atodlen 1 (sy’n cynnwys pwerau mewn cysylltiad â ffioedd a thaliadau) yn cael effaith.

Cydsyniad Gweinidogion Cymru i is-ddeddfwriaeth sydd o fewn cwmpas cyfraith yr UE

14Cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth

(1)Cyn gwneud is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys darpariaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi, rhaid i un o Weinidogion y Goron, neu unrhyw berson arall (ac eithrio Gweinidogion Cymru) y mae’r swyddogaeth o wneud y ddeddfwriaeth wedi ei rhoi iddo, gael cydsyniad Gweinidogion Cymru.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys i ddarpariaeth os yw—

(a)amodau 1, 2 a 3 wedi eu bodloni, a

(b)amod 4 neu 5 wedi ei fodloni.

(3)Amod 1 yw bod y ddarpariaeth yn gymwys o ran Cymru (pa un a yw’r ddarpariaeth yn rhychwantu tiriogaethau eraill neu’n gymwys iddynt ai peidio) ac o fewn cymhwysedd datganoledig.

(4)Amod 2 yw bod y ddarpariaeth yn dod, neu y byddai wedi dod, o fewn cwmpas cyfraith yr UE fel y mae’n cael effaith ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(5)Amod 3 yw bod y ddarpariaeth i’w gwneud o dan swyddogaeth a arferir drwy offeryn statudol.

(6)Amod 4 yw bod y ddarpariaeth i’w gwneud o dan swyddogaeth a roddir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddeddfir ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(7)Amod 5 yw—

(a)bod y ddarpariaeth i’w gwneud o dan swyddogaeth a addesir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddeddfir ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym,

(b)bod y swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) wedi ei haddasu gan y Ddeddf mewn ffordd sy’n galluogi, neu’n ei gwneud yn ofynnol, i ddarpariaeth gael ei gwneud na ellid ei gwneud yn flaenorol, ac

(c)na ellid bod wedi gwneud y ddarpariaeth cyn i’r swyddogaeth gael ei haddasu.

15Cydsyniad Gweinidogion Cymru i gymeradwyo neu gadarnhau is-ddeddfwriaeth

(1)Cyn cymeradwyo neu gadarnhau is-ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi, rhaid i un o Weinidogion y Goron, neu unrhyw berson arall (ac eithrio Gweinidogion Cymru) y mae’r swyddogaeth o gymeradwyo neu gadarnhau’r ddeddfwriaeth wedi ei rhoi iddo, gael cydsyniad Gweinidogion Cymru.

(2)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfwriaeth os yw—

(a)amodau 1, 2 a 3 wedi eu bodloni, a

(b)amod 4 neu 5 wedi ei fodloni.

(3)Amod 1 yw bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth sy’n gymwys o ran Cymru (pa un a yw’r ddarpariaeth yn rhychwantu tiriogaethau eraill neu’n gymwys iddynt ai peidio) ac sydd o fewn cymhwysedd datganoledig.

(4)Amod 2 yw bod y ddarpariaeth y cyfeirir ati yn amod 1 yn dod, neu y byddai wedi dod, o fewn cwmpas cyfraith yr UE fel y mae’n cael effaith ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(5)Amod 3 yw bod yr is-ddeddfwriaeth i’w gwneud gan berson ac eithrio Gweinidogion Cymru o dan swyddogaeth a arferir drwy offeryn statudol.

(6)Amod 4 yw bod yr is-ddeddfwriaeth i’w chymeradwyo neu ei chadarnhau o dan swyddogaeth a roddir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddeddfir ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(7)Amod 5 yw—

(a)bod yr is-ddeddfwriaeth i’w chymeradwyo neu ei chadarnhau o dan swyddogaeth a addesir gan neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig a ddeddfir ar ôl y diwrnod y daw’r adran hon i rym, a

(b)bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys y math o ddarpariaeth y mae’r addasiad yn ei ganiatáu neu’n ei wneud yn ofynnol neu y mae’r addasiad yn gymwys iddo.

(8)Addesir swyddogaeth at ddibenion is-adran (7) os, o ganlyniad i addasiad i ddeddfiad—

(a)yw’r is-ddeddfwriaeth y mae’r swyddogaeth yn gymwys iddi yn gallu cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig na allai ei chynnwys yn flaenorol, neu

(b)yw’r swyddogaeth yn gymwys i is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig nad oedd yn gymwys iddi yn flaenorol.

(9)At ddibenion yr adran hon, mae swyddogaeth o gymeradwyo yn cynnwys swyddogaeth o roi cydsyniad.

16Dyletswydd i adrodd ar arfer swyddogaethau o dan adrannau 14(1) a 15(1)

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru adroddiad ar arfer eu swyddogaeth cydsyniad o dan adran 14(1) neu 15(1) cyn diwedd cyfnod o 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir cydsyniad.

(2)Rhaid i adroddiad a lunnir o dan is-adran (1)—

(a)rhoi esboniad o’r is-ddeddfwriaeth sy’n cael ei gwneud, ei chymeradwyo neu ei chadarnhau;

(b)pennu’r person y mae’r swyddogaethau o wneud, cymeradwyo neu gadarnhau’r ddeddfwriaeth wedi eu rhoi iddo;

(c)pennu rhesymau Gweinidogion Cymru dros roi’r cydsyniad.

(3)At ddibenion is-adran (1), nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Cymhwysedd datganoledig

17Ystyr cymhwysedd datganoledig

(1)Mae darpariaeth neu swyddogaeth o fewn cymhwysedd datganoledig at ddiben adran 3, 4, 5(5), 6(3), 9 neu 10 os byddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru pe bai wedi ei chynnwys mewn Deddf gan y Cynulliad a ddeddfir ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym.

(2)Mae darpariaeth o fewn cymhwysedd datganoledig at ddiben adrannau 11, 14 a 15 os byddai o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnwys y ddarpariaeth yn y canlynol—

(a)Deddf gan y Cynulliad a ddeddfir heb gydsyniad un o Weinidogion y Goron ar y diwrnod y daw’r adran hon i rym, a

(b)os yw adran 3 o Ddeddf Cymru 2017 mewn grym, Deddf gan y Cynulliad a ddeddfir heb gydsyniad un o Weinidogion y Goron o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a amnewidiwyd gan adran 3 o Ddeddf Cymru 2017 fel y’u deddfwyd gan Ddeddf 2017.

Cyffredinol

18Rheoliadau i barhau i gael effaith

Nid yw’r gwaharddiadau ar wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon ar ôl amser penodol yn effeithio ar barhad mewn grym reoliadau a wneir ar neu cyn yr amser hwnnw (gan gynnwys arfer ar ôl yr amser hwnnw unrhyw bŵer a roddir drwy reoliadau a wneir ar neu cyn yr amser hwnnw).

19Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—

(a)darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol neu ardaloedd gwahanol;

(b)darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(3)Mae Atodlen 2 yn darparu ar gyfer y gweithdrefnau sy’n gymwys i wneud rheoliadau.

20Dehongli cyffredinol

(1)Yn y Ddeddf hon—

(2)Yn y Ddeddf hon—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi amser yn ogystal â diwrnod fel y diwrnod ymadael, mae cyfeiriadau at cyn, ar ôl neu ar y diwrnod hwnnw, neu at ddechrau â’r diwrnod hwnnw, i’w darllen yn unol â hynny fel cyfeiriadau at cyn, ar ôl neu ar yr amser hwnnw ar y diwrnod hwnnw neu (yn ôl y digwydd) at ddechrau â’r amser hwnnw ar y diwrnod hwnnw, a

(b)pan na fo Gweinidogion Cymru yn penodi amser yn ogystal â diwrnod fel y diwrnod ymadael, mae cyfeiriad at y diwrnod ymadael i’w ddarllen fel cyfeiriad at ddechrau’r diwrnod hwnnw.

(3)At ddibenion adrannau 14 a 15, gall addasiad fod yn ddatganedig neu’n oblygedig ac mae’n cynnwys gofyniad i gydymffurfio â chyfraith yr UE nad yw’n gymwys mwyach i arfer y swyddogaeth.

(4)Wrth i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) at ddibenion y diffiniad o “diwrnod ymadael”—

(a)rhaid iddynt roi sylw i unrhyw ddiwrnod neu unrhyw amser ar ddiwrnod a benodir at yr un dibenion neu at ddibenion tebyg mewn neu o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig i roi effaith i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd;

(b)ni chânt benodi diwrnod nac amser ar ddiwrnod sy’n digwydd cyn yr adeg y mae’r Cytuniadau yn peidio â bod yn gymwys i’r Deyrnas Unedig yn unol ag Erthygl 50(3) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd.

(5)Yn is-adran (4)(b), ystyr “y Cytuniadau” yw’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd.

(6)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at Erthygl 34(2)(c) flaenorol o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd yn gyfeiriadau at yr Erthygl honno fel y cafodd effaith ar unrhyw adeg cyn i Gytuniad Lisbon ddod i rym.

(7)Mae unrhyw gyfeiriad arall yn y Ddeddf hon at Erthygl o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd neu’r Cytuniad ar Weithrediad yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys cyfeiriad at yr Erthygl honno fel y’i cymhwysir gan Erthygl 106a o Gytuniad Euratom.

21Dod i rym

Daw’r Ddeddf hon i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

22Diddymu’r Ddeddf hon

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiddymu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon.

23Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018.

(a gyflwynir gan adran 13)

ATODLEN 1FFIOEDD A THALIADAU

Pŵer i ddarparu ar gyfer ffioedd neu daliadau: swyddogaethau newydd

1(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer codi ffioedd neu daliadau eraill, neu mewn cysylltiad â chodi ffioedd neu daliadau eraill, mewn cysylltiad ag arfer swyddogaeth (“y swyddogaeth berthnasol”) sydd gan awdurdod lleol yn rhinwedd darpariaeth a wneir o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn—

(a)adran 3 (pwerau i wneud darpariaeth sy’n cyfateb i gyfraith uniongyrchol yr UE);

(b)adran 4 (pwerau i ailddatgan deddfiadau sy’n deillio o’r UE);

(c)adran 5 (pwerau i bennu darpariaeth a wneir o dan bwerau sy’n ymwneud â’r UE fel un sy’n parhau i gael effaith);

(d)adran 9 (pwerau sy’n ymwneud â chydymffurfedd â rhwymedigaethau rhyngwladol);

(e)adran 10 (pwerau i weithredu’r cytundeb ymadael);

(f)adran 11 (pŵer i weithredu rhwymedigaethau gan yr UE).

(2)Caiff rheoliadau o dan y paragraff hwn (ymhlith pethau eraill)—

(a)pennu’r ffioedd neu’r taliadau neu wneud darpariaeth o ran sut y maent i’w penderfynu;

(b)darparu ar gyfer adennill neu waredu unrhyw symiau sy’n daladwy o dan y rheoliadau;

(c)rhoi pŵer i’r awdurdod cyhoeddus i wneud, drwy is-ddeddfwriaeth, unrhyw ddarpariaeth y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud o dan y paragraff hwn mewn perthynas â’r swyddogaeth berthnasol.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan y paragraff hwn—

(a)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;

(b)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.

Pŵer i addasu ffioedd neu daliadau cyn ymadael

2(1)Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan fo is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth (“y ddarpariaeth codi tâl”) ar gyfer codi ffioedd neu daliadau eraill neu mewn cysylltiad â chodi ffioedd neu daliadau eraill—

(a)sydd wedi ei gwneud mewn rheoliadau o dan adran 4 neu sy’n cael ei thrin fel pe bai wedi ei gwneud o dan adran 5, a

(b)a oedd, yn union cyn y diwrnod ymadael, wedi ei gwneud o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 neu adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973.

(2)Mae is-baragraff (3) hefyd yn gymwys pan fo is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth a addesir o dan y paragraff hwn.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau sy’n addasu’r is-ddeddfwriaeth at ddibenion—

(a)dirymu’r ddarpariaeth codi tâl,

(b)newid swm unrhyw un neu ragor o’r ffioedd neu’r taliadau sydd i’w codi,

(c)newid sut y mae unrhyw un neu ragor o’r ffioedd neu’r taliadau i’w penderfynu, neu

(d)newid fel arall y ffioedd neu’r taliadau y caniateir iddynt gael eu codi mewn perthynas ag unrhyw beth y caniateir i ffioedd neu daliadau gael eu codi mewn cysylltiad ag ef o dan y ddarpariaeth codi tâl.

(4)Caniateir i reoliadau o dan y paragraff hwn gael eu gwneud cyn y diwrnod ymadael os bydd y ddarpariaeth codi tâl yn dod o fewn is-baragraff (1) ar y diwrnod ymadael.

Cyfyngu ar arfer pŵer o dan baragraff 2

3(1)Pan fo’r ddarpariaeth codi tâl yn cynnwys darpariaeth Deddf 1972 yn unig, ni chaiff rheoliadau o dan baragraff 2 osod na chynyddu trethiant.

(2)Yn is-baragraff (1), ystyr “darpariaeth Deddf 1972” yw—

(a)darpariaeth o fewn paragraff 2(1)(a) a wnaed yn union cyn y diwrnod ymadael o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac nid o dan adran 56 o Ddeddf Cyllid 1973, gan gynnwys darpariaeth o’r fath fel y’i haddesir o dan baragraff 2, neu

(b)darpariaeth a wneir o dan baragraff 2 ac sy’n gysylltiedig â darpariaeth o fewn paragraff (a) neu sy’n ychwanegu ati neu yn ei disodli.

(3)Ni chaiff rheoliadau o dan baragraff 2—

(a)rhoi swyddogaeth i un o Weinidogion y Goron na gosod swyddogaeth arno;

(b)dileu nac addasu swyddogaeth cyn cychwyn un o Weinidogion y Goron oni bai bod gwneud hynny yn gysylltiedig â darpariaeth arall sydd wedi ei chynnwys yn y rheoliadau neu’n ganlyniadol iddi.

Perthynas â phwerau eraill

4Nid yw’r Atodlen hon yn effeithio ar y pwerau o dan adran 3, 4, 5, 9, 10 neu 11, neu unrhyw bŵer arall sy’n arferadwy ar wahân i’r Atodlen hon, i’w gwneud yn ofynnol i ffioedd neu daliadau eraill gael eu talu, neu i wneud darpariaeth arall mewn perthynas â ffioedd neu daliadau eraill.

(a gyflwynir gan adran 19(3))

ATODLEN 2Y WEITHDREFN AR GYFER GWNEUD RHEOLIADAU

Rheoliadau’r weithdrefn uwch

1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon sydd—

(a)yn sefydlu awdurdod cyhoeddus newydd;

(b)yn rhoi swyddogaethau i awdurdod cyhoeddus;

(c)yn gosod neu’n cynyddu ffi mewn cysylltiad â swyddogaeth sy’n arferadwy gan awdurdod cyhoeddus;

(d)yn creu trosedd neu’n ehangu cwmpas trosedd;

(e)yn creu neu’n diwygio pŵer i ddeddfu;

(f)yn addasu deddfwriaeth sylfaenol;

(g)wedi eu gwneud o dan adran 11, adran 12 neu adran 22;

ond nid yw’r paragraff hwn yn gymwys os yw paragraff 4 yn gymwys.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol bwrw ymlaen i wneud y rheoliadau rhaid iddynt osod drafft o’r rheoliadau gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â datganiad sy’n nodi barn Gweinidogion Cymru o ran a ddylai’r weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) fod yn gymwys.

(3)Os yw’r rheoliadau drafft yn cynnwys darpariaeth sy’n addasu deddfwriaeth sylfaenol, rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n esbonio pam bod angen y ddarpariaeth.

(4)Os, ar ôl i’r cyfnod o 40 o ddiwrnodau ddod i ben, yw’r rheoliadau drafft a osodwyd o dan is-baragraff (2) wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ar ffurf y rheoliadau drafft, oni bai bod y weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) yn gymwys.

(5)Mae’r weithdrefn yn is-baragraffau (6) i (14) yn gymwys i’r rheoliadau drafft yn lle’r weithdrefn yn is-baragraff (4)—

(a)os yw’r rheoliadau drafft i’w gwneud o dan adran 12 neu adran 22,

(b)os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y dylai’r weithdrefn fod yn gymwys, neu

(c)os yw pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft yn argymell o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau y dylai’r weithdrefn fod yn gymwys ac nad yw’r Cynulliad, drwy benderfyniad, yn gwrthod yr argymhelliad o fewn y cyfnod hwnnw.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i—

(a)unrhyw sylwadau,

(b)unrhyw benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac

(c)unrhyw argymhellion gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft,

a wneir yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau o ran y rheoliadau drafft.

(7)Os, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yw Gweinidogion Cymru yn dymuno gwneud rheoliadau ar ffurf y drafft, rhaid iddynt osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad—

(a)sy’n datgan a gyflwynwyd unrhyw sylwadau, a

(b)sydd, os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.

(8)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl gosod y datganiad, wneud rheoliadau ar ffurf y drafft os y’i cymeradwyir drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(9)Ond caiff pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft, ar unrhyw adeg ar ôl i ddatganiad gael ei osod o dan is-baragraff (7) a chyn i’r rheoliadau drafft gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad o dan is-baragraff (8), argymell nad oes unrhyw drafodion pellach mewn perthynas â’r rheoliadau drafft.

(10)Pan fo argymhelliad wedi ei wneud gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-baragraff (9) mewn perthynas â rheoliadau drafft, ni chaniateir unrhyw drafodion mewn perthynas â’r drafft o dan is-baragraff (8) oni bai bod yr argymhelliad wedi ei wrthod drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

(11)Os, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen i wneud y rheoliadau drafft ond gyda newidiadau sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)y rheoliadau drafft diwygiedig,

(b)datganiad—

(i)sy’n rhoi crynodeb o’r newidiadau a gynigir,

(ii)sy’n datgan a gyflwynwyd unrhyw sylwadau, a

(iii)sydd, os cyflwynwyd unrhyw sylwadau, yn rhoi manylion y sylwadau hynny.

(12)Os yw’r rheoliadau drafft diwygiedig wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud y rheoliadau ar ffurf y rheoliadau drafft diwygiedig.

(13)Ond caiff pwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft diwygiedig, ar unrhyw adeg ar ôl i ddatganiad gael ei osod o dan is-baragraff (11) a chyn i’r rheoliadau drafft gael eu cymeradwyo gan y Cynulliad o dan is-baragraff (12), argymell nad oes unrhyw drafodion pellach mewn perthynas â’r rheoliadau drafft diwygiedig.

(14)Pan fo argymhelliad wedi ei wneud gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru o dan is-baragraff (13) mewn perthynas â rheoliadau drafft diwygiedig, ni chaniateir unrhyw drafodion mewn perthynas â’r drafft diwygiedig o dan is-baragraff (12) oni bai bod yr argymhelliad wedi ei wrthod drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

(15)At ddibenion y paragraff hwn mae rheoliadau wedi eu gwneud ar ffurf y rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig os nad ydynt yn cynnwys newidiadau sylweddol i’w darpariaethau.

(16)Yn y paragraff hwn, mae cyfeiriadau at y cyfnodau “30 o ddiwrnodau”, “40 o ddiwrnodau” a “60 o ddiwrnodau” mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft yn gyfeiriadau at y cyfnodau o 30, 40 a 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y rheoliadau drafft eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(17)At ddibenion is-baragraff (16) nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

Datgelu sylwadau

2(1)Pan fo person sy’n cyflwyno sylwadau am reoliadau drafft neu reoliadau drafft diwygiedig o dan baragraff 1 wedi gofyn i Weinidogion Cymru beidio â’u datgelu, ni chaiff Gweinidogion Cymru eu datgelu o dan baragraff 1 os neu i’r graddau y byddai gwneud hynny (gan ddiystyru unrhyw gysylltiad â thrafodion yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru) yn gyfystyr â thorri cyfrinachedd y gall unrhyw berson ddwyn achos yn ei gylch.

(2)Os yw gwybodaeth sydd mewn sylwadau yn ymwneud â pherson arall, nid oes angen i Weinidogion Cymru ddatgelu’r wybodaeth o dan baragraff 1 os neu i’r graddau—

(a)y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru y gallai datgelu’r wybodaeth honno effeithio’n andwyol ar fuddiannau’r person arall hwnnw; a

(b)y mae Gweinidogion Cymru wedi methu â chael cydsyniad y person arall hwnnw i’r wybodaeth gael ei datgelu.

(3)Nid yw is-baragraffau (1) a (2) yn effeithio ar unrhyw ddatgeliad y gofynnir amdano gan bwyllgor yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig, ac a wneir i’r pwyllgor.

Rheoliadau’r weithdrefn safonol

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon, oni bai bod paragraff 1 neu 4 yn gymwys.

(2)Ni chaniateir i’r rheoliadau gael eu gwneud oni bai bod drafft o’r rheoliadau wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.

Rheoliadau’r weithdrefn frys

4(1)Caniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon (ac eithrio adran 11, adran 12 ac adran 22) gael ei wneud heb i ddrafft ohono gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad, os yw’n cynnwys datganiad bod Gweinidogion Cymru o’r farn, oherwydd brys, fod angen gwneud y rheoliadau heb osod na chymeradwyo drafft.

(2)Ar ôl i offeryn gael ei wneud yn unol ag is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â datganiad sy’n esbonio amgylchiadau’r brys a pham, ym marn Gweinidogion Cymru, yr oedd angen gwneud y rheoliadau heb osod na chymeradwyo drafft.

(3)Mae rheoliadau sydd wedi eu cynnwys mewn offeryn a wneir yn unol ag is-baragraff (1) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod o 30 o ddiwrnodau, sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff yr offeryn ei wneud oni bai bod yr offeryn, yn ystod y cyfnod hwnnw, wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Wrth gyfrifo’r cyfnod o 30 o ddiwrnodau, nid oes unrhyw ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw amser pan yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(5)Os yw rheoliadau yn peidio â chael effaith o ganlyniad i is-baragraff (3), nid yw hynny—

(a)yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed yn flaenorol o dan y rheoliadau, neu

(b)yn atal gwneud rheoliadau newydd.

Y weithdrefn ar ailarfer pwerau penodol

5Caiff offeryn, y mae paragraff 1, 3 neu 4 yn gymwys iddo, sy’n dirymu, yn diwygio neu’n ailddeddfu unrhyw offeryn o’r fath (er gwaethaf adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978) fod yn ddarostyngedig i weithdrefn wahanol o dan yr Atodlen hon i’r weithdrefn yr oedd yr offeryn a oedd yn cynnwys y rheoliadau gwreiddiol yn ddarostyngedig iddi.

Cyfuniadau o offerynnau

6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon sy’n ddarostyngedig i weithdrefn o dan baragraff 1, 3 neu 4.

(2)Caiff yr offeryn statudol hefyd gynnwys rheoliadau o dan ddeddfiad arall a wneir drwy offeryn statudol sy’n ddarostyngedig i weithdrefn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n darparu ar gyfer diddymu’r offeryn ar ôl iddo gael ei wneud.

(3)Pan fo rheoliadau wedi eu cynnwys fel y’i crybwyllir yn is-baragraff (2), y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn statudol yw’r weithdrefn a grybwyllir yn is-baragraff (1) ac nid y weithdrefn a grybwyllir yn is-baragraff (2).

(4)Nid yw’r paragraff hwn yn atal cynnwys rheoliadau eraill mewn offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon.