RHAN 4AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

97Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.

(1)

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu i roi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)

unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig neu ganlyniadol, a

(b)

unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed.

(2)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad neu ddogfen statudol.

(3)

Rhaid i ddogfen statudol a ddiwygir drwy reoliadau o dan yr adran hon gael ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiwygiedig gan y person a chanddo’r swyddogaeth o wneud neu ddyroddi’r ddogfen.

(4)

Yn yr adran hon, ystyr “dogfen statudol” yw offeryn (ac eithrio offeryn statudol)—

(a)

a wneir neu a ddyroddir o dan ddeddfiad, a

(b)

sy’n ddarostyngedig i weithdrefn yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n ofynnol gan ddeddfiad cyn y caniateir iddo gael ei wneud neu ei ddyroddi.