RHAN 3TRIBIWNLYS ADDYSG CYMRU

92Y Llywydd ac aelodau’r paneli

(1)

Ni chaniateir i berson gael ei benodi’n Llywydd nac yn aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol oni bai ei fod yn bodloni’r amod cymhwystra penodiad barnwrol ar sail 5 mlynedd.

(2)

Ni chaniateir i berson gael ei benodi’n aelod o’r panel lleyg oni bai ei fod yn bodloni gofynion a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)

Os yw’r Llywydd, ym marn yr Arglwydd Ganghellor a’r Arglwydd Brif Ustus, yn anaddas i barhau mewn swydd neu’n analluog i gyflawni ei ddyletswyddau, caiff yr Arglwydd Ganghellor (gyda chytundeb yr Arglwydd Brif Ustus) ei ddiswyddo.

(4)

Mae pob aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg i ddal a gadael swydd o dan delerau’r offeryn y mae wedi ei benodi odano.

(5)

Ond dim ond gyda chytundeb y Llywydd y caniateir i aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg gael ei ddiswyddo o dan delerau’r offeryn.

(6)

O ran y Llywydd neu aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol neu’r panel lleyg—

(a)

caiff ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Arglwydd Ganghellor neu (yn ôl y digwydd) i Weinidogion Cymru, a

(b)

mae’n gymwys i gael ei ailbenodi os yw’n peidio â dal y swydd.