RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 5CYFFREDINOL

Adolygu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg

89Adolygu darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu—

(a)

ar gyfer adolygiadau o ddigonolrwydd darpariaeth ddysgu ychwanegol yn Gymraeg;

(b)

i adroddiadau ar ganlyniad yr adolygiadau gael eu llunio a’u cyhoeddi.

(2)

Nid yw is-adran (1) yn atal adolygiadau rhag delio â materion eraill hefyd.

(3)

Rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyntaf ar ganlyniad adolygiad cyn 1 Medi yn y bumed flwyddyn yn dilyn y flwyddyn y dygir unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rhan hon i rym drwy orchymyn (pa un ai at bob diben neu at ddibenion cyfyngedig).

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiadau dilynol cyn 1 Medi ym mhob pumed flwyddyn yn dilyn y flwyddyn ddiwethaf yr oedd yn ofynnol cyhoeddi adroddiad.