RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 5CYFFREDINOL
Gwybodaeth
82Rheoliadau ynghylch datgelu a defnyddio gwybodaeth
(1)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth at ddibenion y Rhan hon neu at ddibenion eraill sy’n gysylltiedig ag addysg plentyn neu berson ifanc.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft—
(a)
pennu personau pellach y mae rhaid rhoi hysbysiad o benderfyniadau iddynt (gan gynnwys, mewn achosion penodedig, roi hysbysiad o benderfyniadau heb gydsyniad y person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef neu, yn achos plentyn, heb gydsyniad rhiant y person hwnnw);
(b)
pennu personau pellach y mae rhaid darparu copïau ysgrifenedig o gynllun iddynt (gan gynnwys, mewn achosion penodedig, ddarparu copïau heb gydsyniad y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef neu, yn achos plentyn, heb gydsyniad rhiant y person hwnnw);
(c)
gwneud darpariaeth ynghylch datgelu cynlluniau;
(d)
gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio’r wybodaeth a gesglir wrth lunio a chynnal cynlluniau.