(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth at ddibenion y Rhan hon neu at ddibenion eraill sy’n gysylltiedig ag addysg plentyn neu berson ifanc.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), er enghraifft—
(a)pennu personau pellach y mae rhaid rhoi hysbysiad o benderfyniadau iddynt (gan gynnwys, mewn achosion penodedig, roi hysbysiad o benderfyniadau heb gydsyniad y person y mae’r penderfyniad yn ymwneud ag ef neu, yn achos plentyn, heb gydsyniad rhiant y person hwnnw);
(b)pennu personau pellach y mae rhaid darparu copïau ysgrifenedig o gynllun iddynt (gan gynnwys, mewn achosion penodedig, ddarparu copïau heb gydsyniad y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef neu, yn achos plentyn, heb gydsyniad rhiant y person hwnnw);
(c)gwneud darpariaeth ynghylch datgelu cynlluniau;
(d)gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio’r wybodaeth a gesglir wrth lunio a chynnal cynlluniau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 82 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 82 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(h)