RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 4OSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU
Apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys
76Cyrff GIG: tystiolaeth ac argymhellion y Tribiwnlys
(1)
Caiff Tribiwnlys Addysg Cymru, mewn perthynas ag apêl o dan y Rhan hon,—
(a)
arfer ei swyddogaethau i’w gwneud yn ofynnol i gorff GIG roi tystiolaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r corff;
(b)
gwneud argymhellion i gorff GIG ynghylch arfer swyddogaethau’r corff.
(2)
Nid oes dim yn is-adran (1) sy’n effeithio ar gyffredinolrwydd y pwerau i wneud rheoliadau yn adrannau 74 a 75.
(3)
Rhaid i gorff GIG y gwnaed argymhelliad iddo gan y Tribiwnlys lunio adroddiad i’r Tribiwnlys cyn diwedd unrhyw gyfnod rhagnodedig sy’n dechrau â’r dyddiad y gwneir yr argymhelliad.
(4)
Rhaid i’r adroddiad o dan is-adran (3) nodi—
(a)
y camau y mae’r corff GIG wedi eu cymryd neu’n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i’r argymhelliad, neu
(b)
pam nad yw’r corff GIG wedi cymryd unrhyw gamau a pham nad yw’n bwriadu cymryd unrhyw gamau mewn ymateb i’r argymhelliad.