RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 4OSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU
Apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys
75Rheoliadau ynghylch y weithdrefn
(1)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—
(a)
cychwyn apêl neu gais o dan y Rhan hon;
(b)
trafodion Tribiwnlys Addysg Cymru ar apêl neu gais o dan y Rhan hon.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) gynnwys darpariaeth—
(a)
o ran y cyfnod y mae apelau neu geisiadau i gael eu cychwyn ynddo a’r dull ar gyfer cychwyn apelau neu geisiadau;
(b)
pan fo awdurdodaeth y Tribiwnlys yn cael ei harfer gan fwy nag un tribiwnlys—
(i)
ar gyfer penderfynu pa dribiwnlys sydd i wrando ar unrhyw apêl neu gais, a
(ii)
ar gyfer trosglwyddo trafodion o un tribiwnlys i dribiwnlys arall;
(c)
ar gyfer galluogi i unrhyw swyddogaethau sy’n ymwneud â materion sy’n rhagarweiniol i apêl neu gais neu faterion sy’n gysylltiedig ag apêl neu gais gael eu cyflawni gan y Llywydd neu gan y cadeirydd cyfreithiol;
(d)
i wrandawiadau gael eu cynnal yn absenoldeb aelod ac eithrio’r cadeirydd cyfreithiol;
(e)
o ran y personau a gaiff ymddangos ar ran y partïon;
(f)
ar gyfer rhoi unrhyw hawliau o ran datgelu neu arolygu dogfennau neu o ran manylion pellach y caniateir i’r llys sirol eu rhoi;
(g)
sy’n ei gwneud yn ofynnol i bersonau fod yn bresennol i roi tystiolaeth a dangos dogfennau;
(h)
ar gyfer awdurdodi i lwon gael eu gweinyddu ar gyfer tystion;
(i)
ar gyfer dyfarnu ar apelau neu geisiadau heb wrandawiad o dan amgylchiadau rhagnodedig;
(j)
o ran tynnu apelau neu geisiadau yn ôl;
(k)
o ran dyfarnu costau neu dreuliau;
(l)
ar gyfer asesu neu setlo fel arall unrhyw gostau neu dreuliau (ac, yn benodol, ar gyfer galluogi i gostau neu dreuliau o’r fath gael eu hasesu yn y llys sirol);
(m)
ar gyfer cofrestru penderfyniadau a gorchmynion a chael prawf ohonynt;
(n)
ar gyfer galluogi’r Tribiwnlys i adolygu ei benderfyniadau, neu i ddirymu neu amrywio ei orchmynion, o dan amgylchiadau rhagnodedig;
(o)
ar gyfer galluogi’r Tribiwnlys i atal trafodion;
(p)
ar gyfer ychwanegu ac amnewid partïon;
(q)
ar gyfer galluogi delio ag apelau neu geisiadau gan bersonau gwahanol gyda’i gilydd;
(r)
i apêl neu gais o dan y Rhan hon gael ei gwrando neu ei wrando, o dan amgylchiadau a ragnodir yn y rheoliadau, gyda hawliad o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).
(3)
Rhaid i drafodion gerbron y Tribiwnlys gael eu cynnal yn breifat, ac eithrio o dan amgylchiadau rhagnodedig.
(4)
Nid yw Rhan 1 o Ddeddf Cymrodeddu 1996 (p. 23) yn gymwys i unrhyw drafodion gerbron y Tribiwnlys, ond caiff rheoliadau wneud darpariaeth sy’n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan honno.