RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 4OSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU
Apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys
73Penderfyniadau ar apelau o dan adran 72
Ar apêl o dan adran 72, caiff Tribiwnlys Addysg Cymru—
(a)
gwrthod yr apêl;
(b)
gorchymyn bod gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth neu nad oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol o fath a bennir yn y gorchymyn;
(c)
gorchymyn i awdurdod cartref lunio cynllun datblygu unigol;
(d)
gorchymyn i awdurdod cartref ddiwygio cynllun datblygu unigol fel a bennir yn y gorchymyn;
(e)
anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod cartref sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y Tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gwahanol.