RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 4OSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU

Apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys

72Hawliau o ran apelio: personau sy’n cael eu cadw’n gaeth

1

Mae is-adran (2) yn gymwys—

a

i benderfyniadau awdurdod cartref yng Nghymru o dan adran 40;

b

i gynlluniau datblygu unigol a gedwir gan awdurdod cartref o dan adran 42.

2

Caiff person sy’n cael ei gadw’n gaeth ac, yn achos person sy’n cael ei gadw’n gaeth sy’n blentyn, rhiant y person sy’n cael ei gadw’n gaeth, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y materion a ganlyn—

a

penderfyniad gan yr awdurdod cartref o ran a oes gan berson sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol;

b

penderfyniad gan yr awdurdod cartref o ran a fydd angen i gynllun datblygu unigol gael ei gynnal ar gyfer person sy’n cael ei gadw’n gaeth pan gaiff y person ei ryddhau;

c

y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person mewn cynllun datblygu unigol;

d

y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun datblygu unigol neu’r ffaith nad yw darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun (gan gynnwys a yw’r cynllun yn pennu y dylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg);

e

y ddarpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn cynllun datblygu unigol o dan adran 40(7) neu’r ffaith nad yw darpariaeth o dan o dan yr adran honno yn y cynllun;

f

yr ysgol a enwir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48;

g

os nad enwir ysgol mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48, y ffaith honno;

h

gwrthodiad i wneud penderfyniad o dan adran 40(2) ar y sail bod adran 41(2)(b) yn gymwys (dim newid sylweddol mewn anghenion a dim gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad).

3

Mae arfer hawliau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i—

a

darpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adrannau 74, 75, 83 ac 85(8);

b

adran 85(4).