RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 4OSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU

Apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys

71Penderfyniadau ar apelau a cheisiadau o dan adran 70

1

Ar apêl o dan adran 70(2), caiff Tribiwnlys Addysg Cymru—

a

gwrthod yr apêl;

b

gorchymyn bod gan berson, neu nad oes gan berson, anghenion dysgu ychwanegol o fath a bennir yn y gorchymyn;

c

gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol lunio cynllun datblygu unigol;

d

gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol ddiwygio cynllun datblygu unigol fel a bennir yn y gorchymyn;

e

gorchymyn i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yng Nghymru neu gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol (gyda diwygiadau neu hebddynt);

f

gorchymyn i awdurdod lleol gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol;

g

gorchymyn i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol adolygu cynllun datblygu unigol;

h

anfon yr achos yn ôl i gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru sy’n gyfrifol am y mater neu i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y Tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gwahanol.

2

Ar gais o dan adran 70(3) mewn cysylltiad â phlentyn, caiff Tribiwnlys Addysg Cymru ddatgan naill ai bod gan y plentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall—

a

gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu

b

yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.