RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 4OSGOI A DATRYS ANGHYTUNDEBAU

Apelau a cheisiadau i’r Tribiwnlys

70Hawliau o ran apelau a cheisiadau

1

Mae is-adran (2) yn gymwys—

a

i benderfyniadau corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol;

b

i gynlluniau datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir gan gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu awdurdod lleol;

c

i gynlluniau datblygu unigol a ddiwygir gan awdurdod lleol o dan adran 27(6).

2

Caiff plentyn neu berson ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, apelio i Dribiwnlys Addysg Cymru yn erbyn y materion a ganlyn—

a

penderfyniad gan gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru o dan adran 11 neu gan awdurdod lleol o dan adran 13, 18 neu 26 o ran a oes gan berson anghenion dysgu ychwanegol;

b

yn achos person ifanc, penderfyniad gan awdurdod lleol o dan adran 14(1)(c)(ii) o ran a oes angen llunio a chynnal cynllun datblygu unigol;

c

y disgrifiad o anghenion dysgu ychwanegol person mewn cynllun datblygu unigol;

d

y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun datblygu unigol neu’r ffaith nad yw darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn cynllun (gan gynnwys a yw’r cynllun yn pennu y dylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg);

e

y ddarpariaeth a gynhwysir mewn cynllun datblygu unigol o dan adran 14(6) neu 19(4) neu’r ffaith nad yw darpariaeth o dan yr adrannau hynny yn y cynllun;

f

yr ysgol a enwir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48;

g

os nad enwir ysgol mewn cynllun datblygu unigol at ddiben adran 48, y ffaith honno;

h

penderfyniad o dan adran 27 i beidio â diwygio cynllun datblygu unigol;

i

penderfyniad o dan adran 28 i beidio â chymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynllun datblygu unigol yn dilyn cais i ystyried gwneud hynny;

j

penderfyniad i beidio â chynnal cynllun datblygu unigol o dan adran 31(5) neu 31(6);

k

penderfyniad o dan adran 32(2) y dylai corff llywodraethu ysgol a gynhelir beidio â chynnal cynllun;

l

gwrthodiad i benderfynu ar fater ar y sail bod adran 11(3)(b), 13(2)(b), 18(2)(b) neu 29(2)(a) yn gymwys (dim newid sylweddol mewn anghenion a dim gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar y penderfyniad).

3

Caiff plentyn neu riant plentyn wneud cais i Dribiwnlys Addysg Cymru am ddatganiad bod gan y plentyn y galluedd neu nad oes ganddo’r galluedd i ddeall—

a

gwybodaeth y mae rhaid ei rhoi i blentyn neu ddogfennau y mae rhaid eu rhoi i blentyn o dan y Rhan hon, neu

b

yr hyn y mae arfer yr hawliau a roddir i blentyn gan y Rhan hon yn ei olygu.

4

Mae arfer hawliau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i—

a

darpariaeth a wneir gan reoliadau o dan adrannau 74, 75, 83 ac 85(8);

b

adran 85(4).