RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau amrywiol

66Hawl awdurdod lleol i gael mynediad i fangreoedd ysgolion a sefydliadau eraill

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan y Rhan hon ar gyfer plentyn neu berson ifanc.

(2)

Mae hawl gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i gael mynediad ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fan lle y darperir addysg neu hyfforddiant ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ym mangre sefydliad a restrir yn is-adran (3) os yw mynediad i’r man hwnnw’n angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon.

(3)

Y sefydliadau yw—

(a)

ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;

(b)

ysgol a gynhelir yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr;

(c)

sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;

(d)

Academi;

(e)

ysgol arbennig nas cynhelir;

(f)

sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o dan adran 56.