xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol o dan y Rhan hon ar gyfer plentyn neu berson ifanc.
(2)Mae hawl gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod lleol i gael mynediad ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fan lle y darperir addysg neu hyfforddiant ar gyfer y plentyn neu’r person ifanc ym mangre sefydliad a restrir yn is-adran (3) os yw mynediad i’r man hwnnw’n angenrheidiol at ddiben arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Rhan hon.
(3)Y sefydliadau yw—
(a)ysgol annibynnol yng Nghymru neu yn Lloegr;
(b)ysgol a gynhelir yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu yn Lloegr;
(c)sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu yn Lloegr;
(d)Academi;
(e)ysgol arbennig nas cynhelir;
(f)sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr o dan adran 56.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 66 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I3A. 66 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I4A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2)
I5A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(l) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3)
I6A. 66 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(l), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))