RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL
Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arall
55Amodau sy’n gymwys i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn ysgolion annibynnol
(1)
Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei addysgu mewn ysgol annibynnol yng Nghymru oni bai—
(a)
bod yr ysgol wedi ei chynnwys yn y gofrestr o ysgolion annibynnol yng Nghymru, a
(b)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall yr ysgol wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.
(2)
Ni chaiff awdurdod lleol arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc yn cael ei addysgu mewn sefydliad addysgol annibynnol yn Lloegr oni bai—
(a)
bod y sefydliad wedi ei gynnwys yn y gofrestr o sefydliadau addysgol annibynnol yn Lloegr (a gedwir o dan adran 95 o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25) (“Deddf 2008”)), a
(b)
bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y gall y sefydliad wneud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yng nghynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc.
(3)
Yn yr adran hon, mae i “sefydliad addysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent educational institution” gan Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 2008.