RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL
Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arall
53Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mannau ac eithrio mewn ysgolion
(1)
Caiff awdurdod lleol drefnu i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol y mae’n ei gynnal ar gyfer plentyn, neu i unrhyw ran o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, gael ei gwneud mewn man ac eithrio mewn ysgol.
(2)
Ond ni chaiff awdurdod lleol wneud hynny ond os yw wedi ei fodloni y byddai’n amhriodol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei gwneud mewn ysgol.