53Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mannau ac eithrio mewn ysgolionLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol drefnu i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol y mae’n ei gynnal ar gyfer plentyn, neu i unrhyw ran o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol honno, gael ei gwneud mewn man ac eithrio mewn ysgol.
(2)Ond ni chaiff awdurdod lleol wneud hynny ond os yw wedi ei fodloni y byddai’n amhriodol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei gwneud mewn ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 53 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I3A. 53 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
