RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL
Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arall
52Plant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir
(1)
Pan fo plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yng Nghymru, rhaid i’r rheini sy’n ymwneud â gwneud darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer y plentyn sicrhau bod y plentyn yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r ysgol ar y cyd â phlant nad oes ganddynt anghenion dysgu ychwanegol.
(2)
Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) ond yn gymwys i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol a’i bod yn gydnaws—
(a)
â’r plentyn yn cael y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae ei anghenion dysgu ychwanegol yn galw amdani,
(b)
â darparu addysg effeithlon ar gyfer y plant y caiff ei addysgu gyda hwy, ac
(c)
â’r defnydd effeithlon o adnoddau.