RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Darpariaeth ddysgu ychwanegol mewn mathau penodol o ysgol neu sefydliad arall

51Dyletswydd i ffafrio addysg i blant mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir

(1)

Rhaid i awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn perthynas â phlentyn sydd o’r oedran ysgol gorfodol sydd ag anghenion dysgu ychwanegol ac a ddylai gael ei addysgu mewn ysgol sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir oni bai bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau ym mharagraffau (a) i (c) o is-adran (2) yn gymwys.

(2)

Yr amgylchiadau yw—

(a)

bod addysgu’r plentyn mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn anghydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;

(b)

bod addysgu’r plentyn mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir yn briodol er lles pennaf y plentyn ac yn gydnaws â darparu addysg effeithlon ar gyfer plant eraill;

(c)

bod rhiant y plentyn yn dymuno i’r plentyn gael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.

(3)

Ni chaiff awdurdod lleol ddibynnu ar yr eithriad yn is-adran (2)(a) oni bai nad oes unrhyw gamau rhesymol y gallai’r awdurdod eu cymryd i atal yr anghydnawsedd.

(4)

Pan fo rhiant plentyn yn dymuno i’w blentyn gael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir, nid yw is-adran (2)(c) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau bod y plentyn yn cael ei addysgu mewn man ac eithrio mewn ysgol brif ffrwd a gynhelir.

(5)

Nid yw is-adran (1) yn atal plentyn rhag cael ei addysgu mewn—

(a)

ysgol annibynnol, neu

(b)

ysgol a gymeradwyir o dan adran 342 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56),

os telir y gost ac eithrio gan awdurdod lleol.