RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL
Swyddogaethau sy’n ymwneud â sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol
49Dim pŵer i godi tâl am ddarpariaeth a sicrheir o dan y Rhan hon
(1)
Ni chaiff corff llywodraethu nac awdurdod lleol godi tâl ar blentyn, ar riant plentyn neu ar berson ifanc am unrhyw beth y mae’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol yn ei sicrhau ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan y Rhan hon.
(2)
Nid yw plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc yn atebol i dalu unrhyw dâl a godir gan berson am unrhyw beth y mae corff llywodraethu neu awdurdod lleol yn ei sicrhau ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan y Rhan hon.
(3)
Yn yr adran hon, nid yw “rhiant” yn cynnwys rhiant nad yw’n unigolyn.
(4)
Mae Atodlen 1 i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(5)
Ym mharagraff 1, yn is-baragraff (1), ar ôl “mewn achosion ar wahân i’r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (8)” mewnosoder “, ac mewn achosion pan fo codi ffioedd wedi ei wahardd gan neu o dan ddeddfiad”.