RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL
Swyddogaethau sy’n ymwneud â sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol
48Dyletswydd i dderbyn plant i ysgolion a gynhelir a enwir
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys os yw ysgol a gynhelir yng Nghymru wedi ei henwi mewn cynllun datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir ar gyfer plentyn gan awdurdod lleol at ddiben sicrhau bod y plentyn yn cael ei dderbyn i’r ysgol.
(2)
Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol dderbyn y plentyn.
(3)
Cyn enwi ysgol o dan yr adran hon, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori—
(a)
â chorff llywodraethu’r ysgol, a
(b)
yn achos ysgol a gynhelir pan nad yr awdurdod lleol na’i chorff llywodraethu yw’r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgol, â’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle y mae’r ysgol.
(4)
Ni chaiff awdurdod lleol enwi ysgol a gynhelir mewn cynllun datblygu unigol at ddiben sicrhau bod plentyn yn cael ei dderbyn ond—
(a)
os yw’r awdurdod wedi ei fodloni ei bod, er lles y plentyn, yn ofynnol i’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a nodir yn ei gynllun gael ei gwneud yn yr ysgol, a
(b)
os yw’n briodol darparu addysg neu hyfforddiant i’r plentyn yn yr ysgol.
(5)
Mae is-adran (2) yn cael effaith er gwaethaf unrhyw ddyletswydd a osodir ar gorff llywodraethu ysgol gan adran 1(6) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) (terfynau ar faint dosbarthiadau babanod).
(6)
Nid yw is-adran (2) yn effeithio ar unrhyw bŵer i wahardd disgybl o ysgol.
(7)
Yn yr adran hon, mae i “awdurdod derbyn” yr ystyr a roddir i “admissions authority” gan adran 88 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.