RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 3SWYDDOGAETHAU ATODOL

Swyddogaethau sy’n ymwneud â sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol

47Dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol

(1)

Mae is-adran (2) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)

sydd ag anghenion dysgu ychwanegol,

(b)

nad oes cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer, ac

(c)

sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(2)

Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd), wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â’r ysgol neu’r sefydliad, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y mae anghenion dysgu ychwanegol y plentyn neu’r person ifanc yn galw amdani yn cael ei gwneud.

(3)

Rhaid i’r Cod o dan adran 4 gynnwys canllawiau ynghylch arfer y swyddogaeth yn is-adran (2) yn ystod y cyfnod y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ynddo ar gyfer plentyn neu berson ifanc ond nad yw wedi ei roi.

(4)

Mae is-adran (5) yn gymwys i blentyn neu berson ifanc—

(a)

y mae cynllun datblygu unigol yn cael ei gynnal ar ei gyfer gan awdurdod lleol, a

(b)

sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu’n fyfyriwr ymrestredig mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.

(5)

Rhaid i gorff llywodraethu’r ysgol a gynhelir neu’r sefydliad yn y sector addysg bellach (yn ôl y digwydd) gymryd pob cam rhesymol i helpu’r awdurdod lleol sy’n cynnal y cynllun i sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a bennir ynddo.