xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae rheoliadau o dan yr adran hon yn gymwys i’r darpariaethau a ganlyn a phenderfyniadau a wneir odanynt—
(a)adran 14(1)(c)(ii);
(b)adran 31(6)(b);
(c)adran 40(2)(b).
(2)Caiff rheoliadau—
(a)pennu ffactorau sydd i gael eu hystyried wrth asesu a oes angen llunio neu gynnal cynllun;
(b)pennu amgylchiadau y mae angen, neu nad oes angen, llunio neu gynnal cynllun odanynt;
(c)darparu ar gyfer yr hyn sydd i gael ei ystyried, neu nad yw i gael ei ystyried, yn anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant (pa un ai wrth bennu ffactorau, pennu amgylchiadau neu fel arall);
(d)gwneud darpariaeth bellach ynghylch y diffiniad o “addysg neu hyfforddiant”;
(e)gwneud darpariaeth ynghylch y broses ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 46 mewn grym ar 2.11.2020 gan O.S. 2020/1182, rhl. 2(e)