xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r dyletswyddau a osodir gan y darpariaethau yn is-adran (2) ar y cyrff a ganlyn yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â pherson sy’n cael ei gadw’n gaeth o ddechrau’r cyfnod o gadw’r person hwnnw yn gaeth—
(a)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;
(b)corff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach;
(c)awdurdod lleol;
[F1(d)corff GIG.]
(2)Y darpariaethau yw—
(a)adran 11 (dyletswydd corff llywodraethu i benderfynu);
(b)adran 12 (dyletswydd corff llywodraethu i lunio a chynnal cynllun);
(c)adran 13 (dyletswydd awdurdod lleol i benderfynu);
(d)adran 14 (dyletswydd awdurdod lleol i lunio a chynnal cynllun);
[F2(da)adran 20(5)(a) ac (c) (dyletswydd corff GIG i sicrhau triniaeth neu wasanaeth ac i gymryd pob cam rhesymol i’w sicrhau yn Gymraeg);]
(e)adran 26 (dyletswydd awdurdod lleol i ailystyried penderfyniad corff llywodraethu);
(f)adran 30(2) (dyletswydd corff llywodraethu i atgyfeirio pan fo plentyn neu berson ifanc wedi ei gofrestru neu wedi ymrestru mewn mwy nag un sefydliad);
(g)adran 47(2) (dyletswydd corff llywodraethu i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol).
(3)Nid yw’r dyletswyddau a osodir gan y darpariaethau yn is-adran (4) ar gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ar gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach yn gymwys mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc ar unrhyw adeg tra bo’r plentyn hwnnw neu’r person ifanc hwnnw—
(a)yn ddarostyngedig i orchymyn cadw (o fewn yr ystyr a roddir i “detention order” gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996), a
(b)wedi ei gadw’n gaeth mewn llety ac eithrio llety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.
(4)Y darpariaethau yw—
(a)adran 11 (dyletswydd i benderfynu);
(b)adran 12 (dyletswydd i lunio a chynnal cynllun);
(c)adran 17 (dyletswydd i atgyfeirio mater i awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn);
(d)adran 30(2) (dyletswydd i atgyfeirio pan fo plentyn neu berson ifanc wedi ei gofrestru neu wedi ymrestru mewn mwy nag un sefydliad);
(e)adran 47(2) (dyletswydd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol).
(5)Mae is-adran (6) yn gymwys hyd nes bod adran 49 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) (cymhwyso darpariaethau i bersonau sy’n cael eu cadw’n gaeth mewn llety ieuenctid perthnasol) yn dod i rym yn llawn o ran Cymru.
(6)Mae adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) i gael effaith at ddiben y pwerau a’r dyletswyddau a roddir neu a osodir gan neu o dan y Rhan hon ar awdurdodau lleol fel pe bai adran 49 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) mewn grym yn llawn o ran Cymru.
(7)At ddibenion y Rhan hon, mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) o adran 562 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) at lety ieuenctid perthnasol i gael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at lety ieuenctid perthnasol yng Nghymru neu yn Lloegr.
Diwygiadau Testunol
F1A. 44(1)(d) wedi ei fewnosod (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 19(1)(a)
F2A. 44(2)(da) wedi ei fewnosod (1.9.2021) gan Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021 (O.S. 2021/401), rhlau. 1(2), 19(1)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 44 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))
I3A. 44 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I4A. 44 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, ergl. 5
I5A. 44 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1245, erglau. 3(e), 4 (ynghyd ag ergl. 1(4))
I6A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/894, ergl. 3(e)
I7A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/895, erglau. 3(e), 4
I8A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 3 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I9A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/893, ergl. 4 (ynghyd ag ergl. 1(2))
I10A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/898, erglau. 2(e), 3
I11A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/892, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 2, 4-18)
I12A. 44 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1243, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-23) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 2 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 2 ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 2)
I13A. 44 mewn grym ar 1.1.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/1244, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-21) (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/1428, ergl. 3 ac (10.6.2022) gan O.S. 2022/663, ergl. 3 ac (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 3)
I14A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/891, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-25) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 4)
I15A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/896, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 4-22) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 5)
I16A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/897, ergl. 3(e) (ynghyd ag erglau. 1(8), 4-21) (fel y’u diwygiwyd (21.8.2023) gan O.S. 2023/932, ergl. 6)