Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Valid from 01/09/2021

41Amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd yn adran 40(2) yn gymwysLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Nid yw’r ddyletswydd yn adran 40(2) yn gymwys os yw’r un neu’r llall o’r amgylchiadau yn is-adran (2) yn gymwys.

(2)Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y person sy’n cael ei gadw’n gaeth yn berson ifanc nad yw’n cydsynio i benderfyniad o dan adran 40(2)(a) gael ei wneud neu i gynllun gael ei lunio;

(b)bod yr awdurdod cartref wedi penderfynu o’r blaen a oes gan y person sy’n cael ei gadw’n gaeth anghenion dysgu ychwanegol a’i fod wedi ei fodloni—

(i)nad yw anghenion y person sy’n cael ei gadw’n gaeth wedi newid yn sylweddol ers i’r penderfyniad hwnnw gael ei wneud, a

(ii)nad oes gwybodaeth newydd sy’n effeithio’n sylweddol ar benderfyniad o dan adran 40(2)(a) neu (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)