34Cynllun datblygu unigol ar ôl pen-blwydd person ifanc yn 25 oedLL+C
(1)Mae’r ddyletswydd ar gorff llywodraethu sefydliad yn y sector addysg bellach o dan adran 12, neu ar awdurdod lleol o dan adran 14, i lunio neu gynnal cynllun ar gyfer person ifanc yn peidio â bod yn gymwys ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y person ifanc yn cyrraedd 25 oed ynddi.
(2)Yn yr adran hon, ystyr “blwyddyn academaidd” yw—
(a)mewn perthynas â pherson ifanc sy’n mynychu sefydliad yn y sector addysg bellach, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Gorffennaf, a
(b)mewn perthynas ag unrhyw berson ifanc arall, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae cwrs addysg neu hyfforddiant y person ifanc yn dod i ben neu’r diwrnod cyn i’r person ifanc gyrraedd 26 oed (pa un bynnag sydd gynharaf).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 34 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(3)
I2A. 34 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 3, 4 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(2)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(3))
I3A. 34 mewn grym ar 1.9.2021 at ddibenion penodedig gan O.S. 2021/373, erglau. 6, 7 (fel y’u diwygiwyd gan O.S. 2021/735, ergl. 2(3)(a) ac O.S. 2021/938, ergl. 2(4)(5))