RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL

PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL

Ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau a chynlluniau cyrff llywodraethu

28Dyletswydd awdurdodau lleol i benderfynu pa un ai i gymryd drosodd gynlluniau cyrff llywodraethu ai peidio

(1)

Mae is-adran (3) yn gymwys pan—

(a)

bo corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn neu berson ifanc o dan adran 12(1) neu 12(3), a

(b)

bo unrhyw un neu ragor o’r personau a grybwyllir yn is-adran (2) yn gofyn i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn neu’r person ifanc ystyried cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun.

(2)

Y personau yw—

(a)

y plentyn neu’r person ifanc,

(b)

yn achos plentyn, rhiant y plentyn, neu

(c)

y corff llywodraethu.

(3)

Rhaid i’r awdurdod lleol benderfynu a ddylai gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol a gynhelir gan y corff llywodraethu.

(4)

Pan fo corff llywodraethu yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r plentyn neu’r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn am y cais a gwahodd sylwadau.

(5)

Pan fo plentyn, rhiant plentyn, neu berson ifanc yn gwneud y cais, rhaid i’r awdurdod lleol roi gwybod i’r corff llywodraethu am y cais a gwahodd sylwadau oddi wrth y corff llywodraethu.

(6)

Caiff awdurdod lleol benderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun a gynhelir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir os yw’n penderfynu o dan adran 27(6) y dylai’r cynllun gael ei ddiwygio.

(7)

Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r plentyn neu’r person ifanc, yn achos plentyn, rhiant y plentyn, a’r corff llywodraethu am—

(a)

penderfyniad o dan is-adran (3) neu (6), a

(b)

y rhesymau dros y penderfyniad.

(8)

Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu cymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal y cynllun—

(a)

mae i gael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal gan yr awdurdod o dan adran 14 at ddibenion y Rhan hon, a

(b)

nid yw’n ofynnol i’r corff llywodraethu ei gynnal,

o’r dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan is-adran (7).