RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL
Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
19Dyletswyddau i lunio a chynnal cynlluniau ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
(1)
Mae’r ddyletswydd yn is-adran (2) yn gymwys os yw awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn wedi penderfynu o dan adran 18 fod gan blentyn sy’n derbyn gofal anghenion dysgu ychwanegol.
(2)
Rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn os yw’r plentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru.
(3)
Rhaid i awdurdod lleol sy’n llunio neu’n cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn y mae’n gofalu amdano—
(a)
ystyried a ddylai darpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei darparu yn Gymraeg i’r plentyn, a
(b)
os yw’n penderfynu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, bennu yn y cynllun datblygu unigol y dylai gael ei ddarparu yn Gymraeg.
(4)
Os na ellir diwallu anghenion rhesymol y plentyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol oni bai bod yr awdurdod lleol hefyd yn sicrhau darpariaeth o’r math a grybwyllir yn is-adran (5), rhaid i’r awdurdod gynnwys disgrifiad o’r ddarpariaeth arall honno yn y cynllun datblygu unigol.
(5)
Y mathau o ddarpariaeth yw—
(a)
lle mewn ysgol benodol neu sefydliad arall;
(b)
bwyd a llety.
(6)
O ran y ddyletswydd yn is-adran (4)—
(a)
nid yw’n gymwys i le mewn ysgol benodol neu sefydliad arall nad yw’n ysgol a gynhelir yng Nghymru os nad yw’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am dderbyniadau i’r ysgol neu’r sefydliad arall yn cydsynio;
(b)
mae’n ddarostyngedig i’r dyletswyddau yn adrannau 55, 56(3) a 59.
(7)
Pan fo awdurdod lleol sy’n gofalu am blentyn yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn, rhaid i’r awdurdod—
(a)
sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir yn y cynllun,
(b)
sicrhau unrhyw ddarpariaeth arall a ddisgrifir yn y cynllun yn unol ag is-adran (4), ac
(c)
os yw’r cynllun yn pennu y dylai math penodol o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol gael ei ddarparu yn Gymraeg, gymryd pob cam rhesymol i sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn Gymraeg i’r plentyn.
(8)
Gweler adran 35 am ddarpariaeth ynghylch trosglwyddo dyletswyddau i gynnal cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant sydd eisoes â chynlluniau pan ydynt yn dod yn blant sy’n derbyn gofal.