RHAN 2ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL
PENNOD 2CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL
Darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal
16Diwygiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
(1)
Mae adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (cynlluniau gofal a chymorth) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“(2A)
Rhaid i gynllun gofal a chymorth ar gyfer plentyn gynnwys cofnod o’r trefniadau a wneir i ddiwallu anghenion y plentyn mewn perthynas ag addysg a hyfforddiant (“cynllun addysg personol”).
(2B)
Ond nid yw is-adran (2A) yn gymwys i blentyn os yw o fewn categori o blentyn sy’n derbyn gofal a ragnodir mewn rheoliadau, nad oes cynllun addysg personol i gael ei lunio ar ei gyfer.
(2C)
Os—
(a)
oes gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol, a
(b)
yw cynllun gofal a chymorth y plentyn yn cynnwys cynllun addysg personol,
rhaid cynnwys unrhyw gynllun datblygu unigol a gynhelir ar gyfer y plentyn o dan adran 19 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn y cynllun addysg personol.
(2D)
At ddibenion is-adran (2C)—
(a)
ystyr “plentyn” yw plentyn nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol (o fewn yr ystyr a roddir i “compulsory school age” gan adran 8 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56));
(b)
mae i “anghenion dysgu ychwanegol” yr ystyr a roddir gan adran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.”
(3)
Yn is-adran (3), yn lle “y cynlluniau y mae’n eu cynnal o dan yr adran hon” rhodder “gynllun gofal a chymorth”.
(4)
Yn is-adran (4), yn lle “cynllun”, y tro cyntaf y mae’n ymddangos, rhodder “cynllun gofal a chymorth”.
(5)
Yn is-adran (5)—
(a)
ar y dechrau, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018,”;
(b)
ym mharagraff (a), yn lle “cynlluniau o dan yr adran hon” rhodder “cynlluniau gofal a chymorth”;
(c)
ym mharagraff (b), yn lle “mae’n rhaid i gynllun eu cynnwys” rhodder “mae cynllun gofal a chymorth i’w cynnwys (gan gynnwys pa bethau y mae cynllun addysg personol i’w cynnwys)”;
(d)
ym mharagraff (c), yn lle “cynlluniau” rhodder “cynlluniau gofal a chymorth”.
(6)
Yn is-adran (7), yn lle “cynllun o dan yr adran hon” rhodder “cynllun gofal a chymorth”.
(7)
Yn is-adran (8), ym mharagraff (a), yn lle “cynllun o dan yr adran hon” rhodder “cynllun gofal a chymorth”.
(8)
Yn is-adran (9), yn lle “gynllun a gynhelir o dan yr adran hon” rhodder “gynllun gofal a chymorth”.
(9)
“(10)
Mae cyfeiriadau yn is-adrannau (2A) i (9) at gynllun gofal a chymorth i’w dehongli fel cyfeiriadau at gynllun gofal a chymorth a lunnir neu a gynhelir o dan yr adran hon.”