24(1)Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 3 (ystyr “plentyn” etc.), yn is-adran (3), ar ôl ““plentyn”” mewnosoder “(ac eithrio yn adran 83(2C))”.
(3)Yn adran 182 (darparu gwasanaethau eirioli: cyfyngiadau), yn is-adran (1)(d), yn lle “332BB of Ddeddf Addysg 1996” rhodder “69 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018”.
(4)Yn adran 196 (gorchmynion a rheoliadau), yn is-adran (6), ar ôl paragraff (c) mewnosoder —
“(ca)y rheoliadau cyntaf a wneir o dan adran 83(2B);”.
(5)Yn adran 197 (dehongli cyffredinol a mynegai), yn y diffiniad o “plentyn”, ar ôl “(“child”)” mewnosoder “, ac eithrio yn adran 83(2C),”.
(6)Yn Atodlen 2 (swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol), yn nhabl 1—
(a)hepgorer y cofnod ar gyfer Deddf Addysg 1996 (adran 322 o’r Ddeddf honno);
(b)mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y lle priodol—
“Deddf Plant a Theuluoedd 2014 | |
---|---|
Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 31, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. | Dyletswydd i gydymffurfio â chais i gydweithredu gan awdurdod lleol yn Lloegr at ddiben arfer swyddogaethau o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014.” |
(c)mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y lle priodol—
“Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 | |
---|---|
Y ddyletswydd i gydymffurfio â chais o dan adran 65, ond dim ond mewn cysylltiad â cheisiadau i arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. | Dyletswydd i arfer swyddogaethau i ddarparu gwybodaeth neu help arall ar gais gan awdurdod lleol at ddiben arfer swyddogaethau gan yr awdurdod lleol hwnnw o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.” |